xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Rheoliadau 2012

16.—(1Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 —

(a)ar ôl y diffiniad o “coleg dinasol” mewnosoder—

ystyr “cwrs neu raglen astudio achrededig” (“accredited course or programme of study”) yw cwrs neu raglen hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol wedi ei achredu neu ei hachredu gan y Cyngor o dan ei swyddogaethau yng Ngorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017;; a

(b)yn y diffiniad o “y Cyngor” yn lle “Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru” rhodder “Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014”.

(3Yn rheoliad 8(4) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu ddarparwr cwrs neu raglen astudio achrededig”.

(4Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1(b) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu wedi cwblhau cwrs neu raglen astudio achrededig yn llwyddiannus”;

(b)ym mharagraff 1(ch) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu ddarparwr cwrs neu raglen astudio achrededig”; ac

(c)ym mharagraff 2(b) ar ôl “sefydliad achrededig” mewnosoder “neu ddarparwr cwrs neu raglen astudio achrededig”.