- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a)y rheoliad hwn, rheoliad 2(1), 2(3)(a), 2(3)(b)(i) a 2(3)(b)(iii) ar 15 Ionawr 2018;
(b)rheoliad 2(3)(b)(ii) ar 28 Chwefror 2018;
(c)rheoliadau 2(2) a 3 ar 1 Ebrill 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
(4) Yn y rheoliad hwn mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1).
2.—(1) Mae Rheoliadau Adeiladu 2010(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 37A(1) (darparu systemau llethu tân awtomatig)(3) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—
“(i)a hostel providing temporary accommodation to those who are ordinarily resident elsewhere;”.
(3) Yn Atodlen 3 (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau i’r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu adneuo planiau llawn)(4)—
(a)ym mharagraffau 4, 8, 9, 12, 13, 14 a 15 o golofn 2, hepgorer “Benchmark Certification Limited,”;
(b)ym mharagraffau 10 ac 11 o golofn 2—
(i)o flaen “BM Trada Certification Limited” mewnosoder “Assure Certification Limited(5),”;
(ii)hepgorer “BM Trada Certification Limited,”; a
(iii)hepgorer “, Network VEKA Limited”.
3. Nid yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 2(2) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, cyn y dyddiad y daw’r rheoliad hwnnw i rym—
(a)hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; neu
(b)gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed unrhyw wyro oddi wrth yr hysbysiad neu gynlluniau hynny ai peidio.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: