Search Legislation

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 14

ATODLEN 2Gwybodaeth a materion eraill sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad pan fo’r amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost yn gymwys

1.  Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (pan fo hynny’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (pan fo hynny’n gymwys) y trethdalwr.

2.  Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef a, phan fo hynny’n hysbys, rif y cyfrif ardrethu annomestig.

3.  Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—

(a)cadarnhad—

(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;

(ii)nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir fel y’i disgrifir yn y Gorchymyn hwn;

(iii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a

(b)enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a’i rif cofrestru.

4.  Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn.

5.  Cadarnhad o’r naill neu’r llall o’r canlynol—

(a)y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a’i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad; neu

(b)y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.

6.  Ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio os yw’n ystyried y gallai beidio â bod yn gymwys mwyach i gael rhyddhad ardrethi o dan y Gorchymyn hwn.

7.  Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.

8.  Llofnod y trethdalwr neu’r person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.

9.  Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.

10.  Dyddiad yr hysbysiad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources