2017 Rhif 1218 (Cy. 291)

Landlord A Thenant, Cymru

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 19861 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2017, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 5 Ionawr 2018.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

  • mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;

  • ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

  • ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin3;

  • ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;

  • ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu gallu cynhyrchiol tir2

1

Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

2

Os gellir defnyddio’r tir o dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

a

yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a

b

y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2017, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.

3

Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2016 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—

a

yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a

b

y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2017, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENUnedau cynhyrchu rhagnodedig a phennu incwm blynyddol net

Erthygl 2

Colofn 1

Defnydd ffermio

Colofn 2

Uned gynhyrchu

Colofn 3

Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)

1. Da byw

Buchod godro

buwch

450

Buchod bridio cig eidion:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

buwch

-111

ar dir arall

buwch

-137

Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)

y pen

-72(1)

Buchod llaeth i lenwi bylchau

y pen

87(2)

Mamogiaid:

ar dir mewn ardal lai ffafriol

mamog

-27

ar dir arall

mamog

-6

Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)

y pen

4.2

Moch:

hychod a banwesod torrog

hwch neu fanwes

270

moch porc

y pen

7.8

moch torri

y pen

11

moch bacwn

y pen

13.9

Dofednod:

ieir dodwy

aderyn

4.4

brwyliaid

aderyn

0.8

cywennod ar ddodwy

aderyn

0.3

Tyrcwn Nadolig

aderyn

9.6

2. Cnydau âr fferm

Haidd

hectar

-48

Ffa

hectar

-152

Rêp had olew

hectar

32

Pys sych

hectar

150

Tatws:

cynnar cyntaf

hectar

3,690

prif gnwd (gan gynnwys hadyd)

hectar

3,440

Betys siwgr

hectar

280

Gwenith

hectar

100

3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau

Ffrwythau’r berllan

hectar

2,450

Ffrwythau meddal

hectar

7,310

4. Hectarau cymwys

Tir a oedd, yn 2016, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013

tir dan anfantais ddifrifol

hectar

112.40

tir dan anfantais

hectar

66.53

pob tir arall

hectar

47.31

(1)

Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.

(2)

Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2017 i 11 Medi 2018 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).

Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth bennu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir o dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2016, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.