Search Legislation

Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog (Diwygio) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1197 (Cy. 290)

Cynllunio Seilwaith

Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog (Diwygio) 2017

Gwnaed

29 Tachwedd 2017

Yn dod i rym

8 Rhagfyr 2017

Mae Innogy Renewables UK Limited(1) wedi cyflwyno cais i Weinidogion Cymru o dan baragraff 2(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008(2) ar gyfer newidiadau i Orchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014(3) nad ydynt yn sylweddol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried effaith y newidiadau ar Orchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 fel y’i gwnaed yn wreiddiol, ac maent yn fodlon nad yw’r newidiadau’n sylweddol.

Ar ôl ystyried y cais, yr ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori a oedd yn ofynnol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Cydsyniad i Ddatblygiad) 2011(4), mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu gwneud y newidiadau ar delerau nad ydynt yn sylweddol wahanol i’r rheini a gynigiwyd yn y cais gwreiddiol, ym marn Gweinidogion Cymru.

Yn unol â hynny, wrth arfer y pwerau ym mharagraff 2(1) a (9) o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio 2008, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 8 Rhagfyr 2017.

Diwygio Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014

2.  Mae Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 5.

Diwygio erthygl 2 (dehongli)

3.—(1Mae erthygl 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), yn lle’r diffiniad o “the works plan” rhodder y diffiniad a ganlyn—

“the works plan” means the revised works plan submitted with the application dated 23 Awst 2017 for a non-material change to this Order under paragraph 2 of Schedule 6 to the 2008 Act and certified by the Welsh Ministers in accordance with article 36(1A).

Diwygio erthygl 36 (ardystio cynlluniau etc)

4.—(1Mae erthygl 36 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Mewnosoder y paragraff a ganlyn ar ôl paragraff (1)—

(1A) The undertaker must, as soon as practicable after the coming into force of the Clocaenog Forest Wind Farm (Amendment) Order 2017, submit to the Welsh Ministers a copy of the works plan for certification that it is a true copy.

Diwygio Atodlen 1 (prosiect awdurdodedig)

5.—(1Yn y cyfeiriad at Waith Rhif 3 yn Rhan 1 (datblygiad awdurdodedig) o Atodlen 1, yn lle’r geiriau “A series of new tracks, existing tracks subject to improvement and widening and public roads subject to widening” rhodder “A series of new tracks, existing tracks subject to improvement and widening, public roads subject to widening and a series of turning heads located adjacent to tracks”.

(2Mae’r tablau sy’n ymwneud â Gwaith Rhif 3 yn Rhan 1 (datblygiad awdurdodedig) o Atodlen 1 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(3Yn y tabl sydd â’r pennawd “New tracks”—

(a)yn y rhes sydd ag “N7” fel y cofnod cyntaf—

(i)yn lle “300779” rhodder “300704”; a

(ii)yn lle “357705” rhodder “357556”; a

(b)mewnosoder y canlynol ar ôl y rhes sydd ag “N4” fel y cofnod cyntaf—

N25300509357483300277357467
N26300596357354300614357029
N27301133355580300866355375
N28300784355332300534355065.

(4Yn y tabl sydd â’r pennawd “Existing tracks subject to improvement and widening”, yn y rhes sydd ag “E6” fel y cofnod cyntaf—

(a)yn lle “300635” rhodder “300614”; a

(b)yn lle “357032” rhodder “357029”.

(5Mewnosoder y tabl canlynol ar ôl y tabl sydd â’r pennawd “Public roads subject to widening”—

Turning Heads

Grid reference
Turning head numberEastingNorthing
TH1 (at T3)301166357866
TH2 (between T7 and T9)300226356920
TH3 (at T10)301344356350
TH4 (at T13)301221355570
TH5 (at T15)301436355089
TH6 (at T17)301501354506
TH7 (at T18)301833354061
TH8 (at T24)300672352492
TH9 (at T25)301854352484
TH10 (at T28)300817352143
TH11 (at T30)301367351613
TH12 (at T31)300989350791
TH13 (at T32)301314350614.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

29 Tachwedd 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014 (y “prif Orchymyn”), a oedd yn rhoi caniatâd datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, yn dilyn cais am newid ansylweddol o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.

Mae’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi newidiadau i’r cynlluniau gwaith i adlewyrchu newidiadau yn nherfynau’r gwyro ac i fannau cychwyn a therfynu’r traciau mynediad ac ychwanegu’r gwaith o adeiladu mannau troi yng Ngwaith Rhif 3.

Rhaid cyflwyno’r cynlluniau gwaith coed diwygiedig i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu hardystio o dan erthygl 36(1A) newydd y prif Orchymyn. Mae gofyniad 7 yn Rhan 3 o Atodlen 1 i’r prif Orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r datblygiad awdurdodedig gael ei gyflawni’n unol â’r cynlluniau a ardystiwyd o dan erthygl 36.

(1)

Cwmni rhif: 2550622, Innogy Renewables UK Limited (RWE Innogy UK Limited gynt) yw’r person sydd wedi cyflwyno cais ar gyfer Gorchymyn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog 2014.

(2)

2008 p. 29. Diwygiwyd paragraff 2 o Atodlen 6 gan baragraff 4 o Atodlen 8 i Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23); gan baragraff 72 o Atodlen 13 a chan Atodlen 25 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20); gan adran 28 o Ddeddf Seilwaith 2015 (p. 7); a chan baragraff 8(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).

(4)

O.S. 2011/2055. Diwygiwyd rheoliadau 6 a 7 gan O.S. 2012/635 a 2015/760.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources