ATODLEN 1Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu gan ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru neu gan ddarparwr gwasanaeth sy’n gwneud cais i amrywio cofrestriad

Rheoliadau 3, 6, 7 ac 11

Yr wybodaeth sy’n ofynnol ynghylch yr ymgeisydd pan fo’r ymgeisydd yn unigolyn

1

Enw llawn yr ymgeisydd, ei ddyddiad geni, cyfeiriad cartref, cyfeiriad post electronig a rhif ffôn.

2

Manylion am gymwysterau a phrofiad proffesiynol neu dechnegol yr ymgeisydd i’r graddau bod cymwysterau a phrofiad o’r fath yn berthnasol i ddarparu’r gwasanaeth neu wasanaethau rheoleiddiedig y mae’r ymgeisydd yn gwneud cais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â hwy.

3

Manylion am hanes cyflogaeth yr ymgeisydd, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac unrhyw gyflogwyr blaenorol.

4

Manylion am unrhyw fusnes y mae’r ymgeisydd yn ei gynnal neu wedi ei gynnal.

5

Enw a chyfeiriad dau ganolwr—

a

nad ydynt yn berthnasau i’r ymgeisydd;

b

y mae’r ddau yn gallu darparu geirda ynghylch cymhwysedd yr ymgeisydd i ddarparu’r gwasanaeth neu wasanaethau rheoleiddiedig y mae’r ymgeisydd wedi gwneud cais i’w darparu; ac

c

y mae un ohonynt wedi cyflogi’r ymgeisydd am gyfnod o 3 mis o leiaf oni bai nad yw’n ymarferol cael geirda o’r fath.

6

Manylion ynghylch a yw’r ymgeisydd—

a

wedi cael ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r gorchymyn methdalu;

b

wedi bod yn ddarostyngedig i orchymyn secwestru nad yw wedi ei ddad-wneud;

c

yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled (o fewn ystyr “debt relief order” yn adran 251A o Ddeddf Ansolfedd 19863); neu

d

wedi gwneud compównd neu drefniant â chredydwyr ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad â’r compównd neu’r trefniant.

Yr wybodaeth sy’n ofynnol ynghylch yr ymgeisydd pan fo’r ymgeisydd yn sefydliad

7

Pan fo’r sefydliad yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol—

a

enw’r sefydliad;

b

cyfeiriad swyddfa gofrestredig y sefydliad;

c

os yw’n wahanol i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu os nad oes unrhyw swyddfa gofrestredig, cyfeiriad prif swyddfa’r sefydliad;

d

cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y sefydliad;

e

os yw’r sefydliad yn gwmni, rhif y cwmni;

f

os yw’r sefydliad yn elusen, rhif yr elusen;

g

pan fo’r sefydliad yn gwmni ac yn is-gwmni i gwmni daliannol—

i

enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni daliannol;

ii

cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y cwmni daliannol;

iii

rhif cwmni’r cwmni daliannol;

iv

os yw’r cwmni daliannol yn elusen, rhif elusen y cwmni daliannol;

v

enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

vi

cyfeiriad post electronig a rhif ffôn unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

vii

rhif cwmni unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol;

viii

os yw’r is-gwmni yn elusen, rhif elusen unrhyw is-gwmni i’r cwmni daliannol.

8

Pan fo’r sefydliad yn awdurdod lleol—

a

enw a chyfeiriad prif swyddfa’r awdurdod;

b

cyfeiriad post electronig a rhif ffôn yr awdurdod;

c

manylion arweinydd y Cyngor a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

9

Pan fo’r sefydliad yn Fwrdd Iechyd Lleol—

a

enw a chyfeiriad prif swyddfa’r Bwrdd;

b

cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y Bwrdd;

c

manylion y cadeirydd a’r prif weithredwr.

10

Pan fo’r sefydliad yn bartneriaeth—

a

enw’r bartneriaeth;

b

cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

c

cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y bartneriaeth.

11

Pan fo’r sefydliad yn gorff anghorfforedig—

a

enw’r corff;

b

cyfeiriad prif swyddfa’r corff;

c

cyfeiriad post electronig a rhif ffôn y corff.

12

Ym mhob achos pan fo’r ymgeisydd yn sefydliad, gwybodaeth am drefniadau llywodraethu’r sefydliad, gan gynnwys manylion unrhyw gyfrifoldebau’r sefydliad sydd wedi eu dirprwyo.

Yr wybodaeth sy’n ofynnol ynghylch pob ymgeisydd

13

Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru fel darparwr gwasanaeth o dan y Ddeddf.

14

Manylion unrhyw gofrestriadau fel darparwr gwasanaeth o dan y Ddeddf.

15

Manylion unrhyw gais blaenorol i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 20004.

16

Manylion unrhyw gofrestriadau o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

17

Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru fel darparwr gwasanaeth o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20085.

18

Manylion unrhyw gofrestriadau fel darparwr gwasanaeth o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.

19

Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru fel person sy’n darparu gwasanaeth gofal o dan Ran 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 20106.

20

Manylion unrhyw gofrestriadau fel person sy’n darparu gwasanaeth gofal o dan Ran 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.

21

Manylion unrhyw geisiadau blaenorol i gofrestru o dan Ran 3 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 20037.

22

Manylion unrhyw gofrestriadau o dan Ran 3 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.

Yr wybodaeth sy’n ofynnol mewn cysylltiad â phob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol

23

Dyddiad geni, rhif ffôn, cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth a chyfeiriad post electronig pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol.

24

Manylion am gymwysterau a phrofiad proffesiynol neu dechnegol pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol i’r graddau bod cymwysterau a phrofiad o’r fath yn berthnasol—

a

i berfformiad a swyddogaethau’r unigolyn cyfrifol a roddir gan y rheoliadau o dan adran 28; a

b

i’r gwasanaeth sydd i gael ei ddarparu yn y man y dynodir yr unigolyn cyfrifol mewn cysylltiad ag ef.

25

Manylion ynghylch a yw pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol—

a

wedi cael ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r gorchymyn methdalu;

b

wedi bod yn ddarostyngedig i orchymyn secwestru nad yw wedi ei ddad-wneud;

c

yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled (o fewn ystyr “debt relief order” yn adran 251A o Ddeddf Ansolfedd 19868); neu

d

wedi gwneud compównd neu drefniant â chredydwyr ac nad yw wedi ei ryddhau mewn cysylltiad â’r compównd neu’r trefniant.

26

Manylion am hanes cyflogaeth pob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac unrhyw gyflogwyr blaenorol.

27

Manylion am unrhyw fusnes sy’n cael ei gynnal neu sydd wedi cael ei gynnal gan bob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol.

28

Mewn cysylltiad â phob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol, enw a chyfeiriadau dau ganolwr—

a

nad ydynt yn berthnasau i’r unigolyn;

b

y mae’r ddau yn gallu darparu geirda ynghylch cymhwysedd yr unigolyn i gyflawni dyletswyddau unigolyn cyfrifol ar gyfer y man y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn perthynas ag ef neu’r mannau y mae’r unigolyn wedi ei ddynodi mewn perthynas â hwy gan yr ymgeisydd i fod yn unigolyn cyfrifol; ac

c

y mae un ohonynt wedi cyflogi’r unigolyn am gyfnod o 3 mis o leiaf oni bai nad yw’n ymarferol cael geirda o’r fath.

Gwybodaeth am y gwasanaeth sydd i gael ei ddarparu

29

Manylion y raddfa ffioedd y bwriedir iddynt fod yn daladwy gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.

30

Yn achos gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth ym mhob man a bennir yn y cais.

31

Yn achos gwasanaeth cymorth cartref, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man a bennir yn y cais.

Gwybodaeth am y llety y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo32

Pan fo’r ymgeisydd yn ceisio darparu gwasanaeth cartref gofal9, gwasanaeth llety diogel10 neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd11

a

enw, cyfeiriad a rhif ffôn arfaethedig y fangre y bwriedir darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddi;

b

disgrifiad o’r fangre, gan gynnwys datganiad ynghylch a yw’r fangre wedi cael ei hadeiladu’n bwrpasol neu a yw wedi cael ei throsi neu y bwriedir iddi gael ei throsi i’w defnyddio fel y man y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ynddo;

c

tystiolaeth o’r canlynol—

i

asesiad risg wedi ei gwblhau fel sy’n ofynnol o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 200512;

ii

cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu;

iii

cofrestriad busnes bwyd;

iv

caniatâd cynllunio;

d

tystiolaeth o ymgynghori ag unrhyw gyrff rheoleiddiol neu gymeradwyaeth unrhyw gyrff o’r fath, pan fo ymgynghori neu gymeradwyaeth o’r fath yn ofynnol;

e

manylion unrhyw fusnes arall sy’n cael ei ddarparu neu a fydd yn cael ei ddarparu yn yr un fangre y bwriedir darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddi;

f

manylion a thystiolaeth ddogfennol o statws perchnogaeth yr adeilad gan gynnwys, os yw wedi ei lesio neu ei rentu, hyd unrhyw gyfnod hysbysu.

Gwybodaeth am y swyddfeydd y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohonynt33

Pan fo’r ymgeisydd yn ceisio darparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion, gwasanaeth eirioli neu wasanaeth cymorth cartref, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig y swyddfa neu’r swyddfeydd y mae’r gwasanaeth i gael ei ddarparu ohoni neu ohonynt.

Y dogfennau y mae’n ofynnol i’r ymgeisydd eu darparu

34

Pan fo’r ymgeisydd yn unigolyn—

a

tystiolaeth o bwy yw’r person sydd i gynnwys ffotograff;

b

tystiolaeth ddogfennol mewn cysylltiad ag unrhyw gymwysterau y mae’r ymgeisydd wedi darparu manylion amdanynt ym mharagraff 2 o’r Atodlen hon;

c

yn ddarostyngedig i is-baragraff (d), adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw’r ymgeisydd yn addas yn gorfforol ac yn feddyliol i gydymffurfio â’r dyletswyddau a osodir ar ddarparwr gwasanaeth mewn rheoliadau o dan adran 27;

d

pan na fo’r ymgeisydd yn gallu cael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), datganiad gan yr ymgeisydd ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a’i iechyd meddwl;

e

pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 199713, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd â, phan fo’n gymwys, wybodaeth am addasrwydd sy’n ymwneud â phlant neu oedolion hyglwyf.

At ddibenion yr is-baragraff hwn ac at ddibenion paragraff 42, ystyr “gwybodaeth am addasrwydd sy’n ymwneud â phlant neu oedolion hyglwyf” yw’r wybodaeth a bennir yn adrannau 113BA a 113BB yn y drefn honno o Ddeddf yr Heddlu 1997;

f

pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd ag, ar ôl y diwrnod penodedig a phan fo’n gymwys, yr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200614 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

At ddibenion yr is-baragraff hwn ac at ddibenion paragraff 43, ystyr “y diwrnod penodedig” yw’r diwrnod y daw adran 30A o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 i rym.

35

Pan fo’r ymgeisydd yn sefydliad ac eithrio awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol, y ddau adroddiad blynyddol a chyfrifon diwethaf, os oes rhai.

36

Mewn cysylltiad ag ymgeiswyr ac eithrio awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol—

a

cynllun busnes;

b

geirda oddi wrth fanc sy’n mynegi barn ar sefyllfa ariannol yr ymgeisydd;

c

manylion am y llif arian rhagamcanol mewn cysylltiad â’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwneud cais i gael ei gofrestru fel darparwr gwasanaeth.

37

Mewn cysylltiad â phob ymgeisydd, tystysgrif yswiriant mewn cysylltiad ag atebolrwydd a all godi mewn cysylltiad â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall.

Y dogfennau sy’n ofynnol mewn cysylltiad â phob unigolyn a ddynodir gan yr ymgeisydd yn unigolyn cyfrifol

38

Tystiolaeth o bwy yw’r person sydd i gynnwys ffotograff.

39

Tystiolaeth ddogfennol o’r holl gymwysterau y mae’r ymgeisydd wedi darparu manylion amdanynt ym mharagraff 24 o’r Atodlen hon.

40

Yn ddarostyngedig i baragraff 41 adroddiad gan ymarferydd meddygol cyffredinol ynghylch a yw’r unigolyn cyfrifol yn addas yn gorfforol ac yn feddyliol i gydymffurfio â’i ddyletswyddau mewn rheoliadau o dan adran 28.

41

Pan na fo’r unigolyn cyfrifol yn gallu cael yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 40, datganiad gan yr unigolyn cyfrifol ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a’i iechyd meddwl.

42

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio ac a ofynnir at ddiben rhagnodedig o dan adran 113B(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o’r Ddeddf honno ynghyd â, phan fo’n gymwys, wybodaeth am addasrwydd sy’n ymwneud â phlant neu oedolion hyglwyf15.

43

Pan fo’n ofynnol at ddibenion cwestiwn sydd wedi ei esemptio yn unol ag adran 113A(2)(b) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o dystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o’r Ddeddf honno ynghyd ag, ar ôl y diwrnod penodedig16 a phan fo’n gymwys, yr wybodaeth a grybwyllir yn adran 30A(3) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (darparu gwybodaeth am waharddiadau ar gais).

44

Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol, datganiad wedi ei lofnodi gan bob un o’r personau a grybwyllir ym mharagraff 45 i’r perwyl eu bod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’u bod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.

45

Y personau hynny yw—

a

unrhyw berson sydd wedi ei benodi’n gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd o’r corff corfforaethol;

b

unrhyw berson sydd wedi ei benodi’n ymddiriedolwr o’r corff corfforaethol.

46

Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n awdurdod lleol, datganiad wedi ei lofnodi gan y person a ddisgrifir ym mharagraff 47 i’r perwyl ei fod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’i fod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.

47

Mae’r person naill ai—

a

yn gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod, neu

b

os y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yw’r unigolyn cyfrifol, prif weithredwr yr awdurdod.

48

Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n gorff anghorfforedig, datganiad wedi ei lofnodi gan bob un o’r personau hynny sy’n ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff i’r perwyl eu bod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’u bod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.

49

Mewn perthynas ag ymgeisydd sy’n bartneriaeth, datganiad wedi ei lofnodi gan bob partner i’r perwyl ei fod wedi darllen a deall y gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol gan reoliadau o dan adran 28 a’i fod yn bwriadu cefnogi’r unigolyn a ddynodir yn unigolyn cyfrifol wrth arfer ei ddyletswyddau fel y’u nodir yn y rheoliadau hynny.