Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 1095 (Cy. 276)

Hadau, Cymru

Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Gwnaed

14 Tachwedd 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Tachwedd 2017

Yn dod i rym

15 Rhagfyr 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 16(1), (2) a (3) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

2.  Yn y tabl yn Atodlen 1 (hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(3), yn y golofn gyntaf (planhigion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt), yn lle “Lolium x boucheanum Kunth” rhodder “Lolium x hybridum Hausskn”.

Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016

3.  Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (labeli swyddogol a dogfennau swyddogol) i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(4), ar ôl paragraff 8(b)(i) mewnosoder—

(ia)rhif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol;.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd o dan awrdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio and Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymr

14 Tachwedd 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016.

Mae rheoliad 2 yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2109 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 66/401/EEC i adlewyrchu’r newid i enw botanegol y rhywogaeth Lolium x boucheanum Kunth (OJ Rhif L 327, 2.12.2016, t. 59). Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 i adlewyrchu’r newid hwnnw i’r enw botanegol.

Mae rheoliad 3 yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/320 (“y Penderfyniad”). Mae’r Penderfyniad yn diwygio Penderfyniad 2004/842/EC ynghylch y rheolau sy’n caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy’n perthyn i amrywogaethau y mae cais i’w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau planhigion amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol wedi cael ei gyflwyno (OJ L 60, 5.3.2016, t. 88). Mae’r Penderfyniad yn cynnwys y gofyniad i rif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol gael ei nodi ar label swyddogol tatws had sydd wedi eu hawdurdodi i gael eu marchnata at ddibenion profion a threialon. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 er mwyn adlewyrchu’r gofyniad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1964 p. 14. Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 4 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddi. Diwygiwyd adran 16(3) gan O.S. 1977/1112.

(2)

Gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”. Yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn unol ag erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.