Offerynnau Statudol Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
14 Tachwedd 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Tachwedd 2017
Yn dod i rym
15 Rhagfyr 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 16(1), (2) a (3) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 16(1) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y tabl yn Atodlen 1 (hadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(3), yn y golofn gyntaf (planhigion y mae’r Rheoliadau yn gymwys iddynt), yn lle “Lolium x boucheanum Kunth” rhodder “Lolium x hybridum Hausskn”.
3. Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (labeli swyddogol a dogfennau swyddogol) i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(4), ar ôl paragraff 8(b)(i) mewnosoder—
“(ia)rhif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol;”.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd o dan awrdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio and Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymr
14 Tachwedd 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016.
Mae rheoliad 2 yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2109 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 66/401/EEC i adlewyrchu’r newid i enw botanegol y rhywogaeth Lolium x boucheanum Kunth (OJ Rhif L 327, 2.12.2016, t. 59). Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 i adlewyrchu’r newid hwnnw i’r enw botanegol.
Mae rheoliad 3 yn gweithredu Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/320 (“y Penderfyniad”). Mae’r Penderfyniad yn diwygio Penderfyniad 2004/842/EC ynghylch y rheolau sy’n caniatáu i Aelod-wladwriaethau awdurdodi rhoi ar y farchnad hadau sy’n perthyn i amrywogaethau y mae cais i’w cynnwys yn y catalog cenedlaethol o amrywogaethau planhigion amaethyddol neu o rywogaethau llysieuol wedi cael ei gyflwyno (OJ L 60, 5.3.2016, t. 88). Mae’r Penderfyniad yn cynnwys y gofyniad i rif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol gael ei nodi ar label swyddogol tatws had sydd wedi eu hawdurdodi i gael eu marchnata at ddibenion profion a threialon. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 er mwyn adlewyrchu’r gofyniad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1964 p. 14. Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 4 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddi. Diwygiwyd adran 16(3) gan O.S. 1977/1112.
Gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”. Yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn unol ag erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
O.S. 2012/245 (Cy. 39), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/889 (Cy. 101), O.S. 2014/519 (Cy. 61) ac O.S. 2016/1242 (Cy. 294).
O.S. 2016/106 (Cy. 52), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/596 (Cy. 139).