20.—(1) Os yw cyflenwad dŵr preifat yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwn i’r person perthnasol yn hytrach na chyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)nodi’r cyflenwad dŵr preifat y mae’n ymwneud ag ef;
(b)pennu’r sail dros gyflwyno’r hysbysiad;
(c)gwahardd defnyddio’r cyflenwad hwnnw neu gyfyngu ar y defnydd ohono;
(d)pennu pa gamau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn—
(i)diogelu iechyd dynol;
(ii)adfer iachusrwydd y cyflenwad dŵr preifat;
(iii)cynnal iachusrwydd parhaus y cyflenwad dŵr preifat ar ôl ei adfer; ac
(e)pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau sy’n ofynnol.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu defnyddwyr y cyflenwad dŵr preifat y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn brydlon, a darparu unrhyw gyngor sydd ei angen.
(4) Caiff yr hysbysiad fod yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i’r awdurdod lleol ddirymu’r hysbysiad cyn gynted ag y bydd yn dod yn ymwybodol nad oes perygl posibl i iechyd dynol mwyach.
(6) Mae’n drosedd i berson perthnasol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw.
(7) Pan fo person perthnasol (“P”) yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol erbyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1), caiff yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad gymryd y fath gamau ei hun.
(8) Pan fo unrhyw gamau yn cael eu cymryd gan awdurdod lleol o dan baragraff (7) mewn perthynas ag unrhyw fangre—
(a)caiff yr awdurdod lleol adennill oddi wrth P unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol ganddo wrth gymryd y camau hynny; a
(b)pan fo person, ac eithrio’r awdurdod lleol, yn atebol i wneud taliadau i P, bernir bod symiau a delir yn rhinwedd is-baragraff (a) yn dreuliau yr eir iddynt wrth gymryd y camau gan P.