xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4Gweithdrefn hysbysu

Hysbysiadau

20.—(1Os yw cyflenwad dŵr preifat yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwn i’r person perthnasol yn hytrach na chyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)nodi’r cyflenwad dŵr preifat y mae’n ymwneud ag ef;

(b)pennu’r sail dros gyflwyno’r hysbysiad;

(c)gwahardd defnyddio’r cyflenwad hwnnw neu gyfyngu ar y defnydd ohono;

(d)pennu pa gamau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn—

(i)diogelu iechyd dynol;

(ii)adfer iachusrwydd y cyflenwad dŵr preifat;

(iii)cynnal iachusrwydd parhaus y cyflenwad dŵr preifat ar ôl ei adfer; ac

(e)pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau sy’n ofynnol.

(3Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu defnyddwyr y cyflenwad dŵr preifat y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn brydlon, a darparu unrhyw gyngor sydd ei angen.

(4Caiff yr hysbysiad fod yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.

(5Rhaid i’r awdurdod lleol ddirymu’r hysbysiad cyn gynted ag y bydd yn dod yn ymwybodol nad oes perygl posibl i iechyd dynol mwyach.

(6Mae’n drosedd i berson perthnasol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw.

(7Pan fo person perthnasol (“P”) yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol erbyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1), caiff yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad gymryd y fath gamau ei hun.

(8Pan fo unrhyw gamau yn cael eu cymryd gan awdurdod lleol o dan baragraff (7) mewn perthynas ag unrhyw fangre—

(a)caiff yr awdurdod lleol adennill oddi wrth P unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol ganddo wrth gymryd y camau hynny; a

(b)pan fo person, ac eithrio’r awdurdod lleol, yn atebol i wneud taliadau i P, bernir bod symiau a delir yn rhinwedd is-baragraff (a) yn dreuliau yr eir iddynt wrth gymryd y camau gan P.

Apelau

21.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno’r hysbysiad.

(2Mae’r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i’r achosion.

(3Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.

(4Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiadau neu heb addasiadau.

Cosbau

22.—(1Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan reoliad 20 yn atebol—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 3 mis, neu’r ddau; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.

(2Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw yn euog o’r drosedd yn ogystal â’r corff corfforaethol.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.