xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017Rhif 1040 (Cy. 269)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

25 Hydref 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Hydref 2017

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 61, 66 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “y Rheoliadau GDS” (“the GDS Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006(2); ac

ystyr “y Rheoliadau PDS” (“the PDS Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006(3).

Diwygio’r Rheoliadau GDS

3.—(1Mae paragraff 38 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau GDS (hysbysu am gwrs o driniaeth, cwrs o driniaeth orthodontig etc.) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (1)—

(a)ym mharagraff (e), yn lle “being” rhodder “is”; a

(b)ar ôl paragraff (f), hepgorer “, on a form supplied by that Board,”.

(3Yn lle is-baragraff (2)(d), rhodder—

(d)in the case of a patient who is exempt from NHS charges, such details of that exemption and the basis of that exemption as the Local Health Board may reasonably request.

(4Ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

(3) In the case of a patient to whom sub-paragraph (2)(d) applies, the contractor must also provide the Local Health Board (or a person authorised on the Local Health Board’s behalf) with the written declaration form.

(4) Before 1 May 2019 the contractor may send the information required in sub-paragraph (2) to the Local Health Board either in paper form or by means of electronic submission.

(5) On or after 1 May 2019 the contractor must send the information required in sub-paragraph (2) to the Local Health Board by means of electronic submission, but the Local Health Board may accept submission of that information in paper form—

(a)in such exceptional circumstances as the Local Health Board may reasonably determine; and

(b)in respect of courses of treatment ending on or before 30 April 2019, for a period ending with 30 June 2019.

(6) In this paragraph, “electronic submission” means information submitted electronically via a computer system approved by the Local Health Board.

Diwygio’r Rheoliadau PDS

4.—(1Mae paragraff 39 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau PDS (hysbysu am gwrs o driniaeth, cwrs o driniaeth orthodontig etc.) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (1)—

(a)ym mharagraff (e), hepgorer y geiriau “it completes”; a

(b)ar ôl paragraff (f), hepgorer “, on a form supplied by the Local Health Board,”.

(3Yn lle is-baragraff (3)(d), rhodder—

(d)in the case of a patient who is exempt from NHS charges, such details of that exemption and the basis of that exemption as the Relevant Body may reasonably request.

(4Ar ôl is-baragraff (3), mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

(4) In the case of a patient to whom sub-paragraph (3)(d) applies, the contractor must also provide the Relevant Body (or a person authorised on the Relevant Body’s behalf) with the written declaration form.

(5) Before 1 May 2019 the contractor may send the information required in sub-paragraph (3) to the Relevant Body either in paper form or by means of electronic submission.

(6) On or after 1 May 2019 the contractor must send the information required in sub-paragraph (3) to the Relevant Body by means of electronic submission, but the Relevant Body may accept submission of that information in paper form—

(a)in such exceptional circumstances as the Relevant Body may reasonably determine; and

(b)in respect of courses of treatment ending on or before 30 April 2019, for a period ending with 30 June 2019.

(7) In this paragraph, “electronic submission” means information submitted electronically via a computer system approved by the Relevant Body.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau GDS”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau PDS”).

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.

Mae’r Rheoliadau GDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer contractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio paragraff 38 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau GDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 38(2) o Atodlen 3 i’r Bwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) yn electronig. Mae’n ofynnol cyflwyno’r wybodaeth honno yn electronig o 1 Mai 2019, er bod pŵer disgresiynol wedi ei roi i’r BILl iddo barhau i dderbyn ffurflenni papur ar ôl y dyddiad hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol. Mae darpariaeth drosiannol i ganiatáu cyflwyno ffurflenni papur hyd at 30 Mehefin 2019 mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n dod i ben ar 30 Ebrill 2019 neu cyn hynny.

Mae’r Rheoliadau PDS yn nodi fframwaith i Gymru ar gyfer cytundebau gwasanaethau deintyddol personol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 39 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau PDS i ganiatáu cyflwyno’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 39(3) o Atodlen 3 i’r BILl (fel y “Relevant Body”) yn electronig. Mae’n ofynnol cyflwyno’r wybodaeth honno yn electronig o 1 Mai 2019, er bod pŵer disgresiynol wedi ei roi i’r BILl iddo barhau i dderbyn ffurflenni papur ar ôl y dyddiad hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol. Mae darpariaeth drosiannol i ganiatáu cyflwyno ffurflenni papur hyd at 30 Mehefin 2019 mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy’n dod i ben ar 30 Ebrill 2019 neu cyn hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, Cymru CF10 3NQ.