2017 Rhif 1026 (Cy. 264)

Dŵr, Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru

Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 10(1) o Ddeddf Dŵr 20031.

Enwi a chymhwyso1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a daw i rym ar 1 Ionawr 2018.

Dirymu Gorchmynion2

1

Mae’r Gorchmynion yn Rhan 1 o’r Atodlen2 wedi eu dirymu.

2

Mae’r Gorchmynion yn Rhan 2 o’r Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn ymwneud â dyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol yng Nghymru.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Erthygl 2

RHAN 1

  • Gorchymyn Awdurdod Afonydd Gwynedd (Eithriadau i Reoli) 19653

  • Gorchymyn De-orllewin Cymru (Eithriadau i Reoli) 19654

  • Gorchymyn Awdurdod Afonydd Morgannwg (Eithriadau i Reoli) 19665

  • Gorchymyn Awdurdod Afon Wysg (Eithriadau i Reoli) 19736

RHAN 2

  • Gorchymyn Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd (Eithriadau i Reoli) 19667

  • Gorchymyn Awdurdod Afon Hafren (Eithriadau i Reoli) 19678

  • Gorchymyn Awdurdod Afonydd Mersi a Weaver (Eithriadau i Reoli) 19689.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchmynion y bernir iddynt gael eu gwneud o dan adran 33 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57). Mae’r Gorchmynion hynny yn darparu esemptiadau i’r cyfyngiadau ar dynnu dŵr yn adran 24 o’r Ddeddf honno.

Lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â Deddf Dŵr 2003 (p. 37). Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hwn yn nodi effeithiau’r dileu esemptiadau i’r cyfyngiad ar dynnu dŵr y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef. Lluniwyd asesiad effaith pellach mewn cysylltiad ag awdurdodiadau newydd i dynnu dŵr ym mis Mehefin 2017. Gellir cael copïau o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r asesiad effaith oddi wrth: Y Gangen Polisi Dŵr, Yr Is-adran Dŵr, Gwastraff, Effeithlonrwydd Adnoddau a Llifogydd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.