xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8. Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a)pan fo ACC wedi dyroddi hysbysiad gwybodaeth i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
(i)yn ystod gohebiaeth; neu
(ii)yn ystod archwiliad o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT, a
(b)pan fo anghydfod rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad o ran a yw dogfen y gofynnwyd amdani yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.
9. Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar—
(a)unrhyw ofyniad o dan hysbysiad gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen nad oes anghydfod yn ei chylch; na
(b)y pwerau o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT i archwilio mangreoedd ac eiddo arall.
10.—(1) Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(i).
(2) Ar ôl cael hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a)pennu mewn rhestr bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch, ynghyd â disgrifiad o natur a chynnwys y ddogfen honno; a
(b)cyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a roddir yn yr hysbysiad gwybodaeth ar gyfer cyflwyno’r ddogfen.
(3) Ond nid yw disgrifiad o’r ddogfen yn ofynnol pan fyddai disgrifiad o’r fath yn arwain at anghydfod dros fraint.
(4) O fewn 20 diwrnod gwaith i gael y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2), rhaid i ACC hysbysu derbynnydd yr hysbysiad am unrhyw ddogfen ar y rhestr y mae’n ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ac y mae’n ystyried ei bod yn anfreintiedig.
(5) Ar ôl cael yr hysbysiad o dan baragraff (4), rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a)cyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n cytuno ei bod yn anfreintiedig; a
(b)i’r graddau bod anghydfod yn parhau ynghylch statws unrhyw ddogfen, gwneud cais i’r tribiwnlys.
(6) Rhaid i gais o dan baragraff (5)(b)—
(a)mynd gyda chopi o’r dogfennau y mae anghydfod yn parhau yn eu cylch; a
(b)cael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol y mae derbynnydd yr hysbysiad ac ACC i gytuno arno, ond mewn unrhyw achos, yn ddim hwyrach na 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad a roddir gan ACC o dan baragraff (4).
11.—(1) Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(ii).
(2) Ar ôl cael yr hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a)dangos i ACC bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch; a
(b)rhoi unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol sy’n rhwystro’r cynnwys rhag bod yn weladwy.
(3) Rhaid i’r cynhwysydd—
(a)cael ei selio, ei labelu a’i lofnodi gan dderbynnydd yr hysbysiad;
(b)cael ei gydlofnodi gan ACC; ac
(c)cael ei gadw gan ACC.
(4) O fewn 42 diwrnod gwaith i gael y cynhwysydd, rhaid i ACC—
(a)danfon y cynhwysydd i’r tribiwnlys gyda’r sêl yn gyflawn ynghyd â chais i’r tribiwnlys; a
(b)anfon copi o’r cais hwnnw at dderbynnydd yr hysbysiad.
12. Pan fo derbynnydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn y Rhan hon, mae’r person hwnnw i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch hyd nes bod y tribiwnlys yn dyfarnu ar statws y ddogfen neu hyd nes y deuir i gytundeb o dan reoliad 14.
13.—(1) Pan wneir cais o dan reoliad 10(5)(b) neu 11(4), rhaid i’r tribiwnlys—
(a)datrys yr anghydfod drwy gadarnhau a yw’r ddogfen yn freintiedig ai peidio, ac i ba raddau; a
(b)cyfarwyddo pa ran neu rannau o ddogfen (os oes rhai) y mae rhaid eu datgelu.
(2) Rhaid i’r tribiwnlys sicrhau nad yw unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch yn cael ei datgelu’n amhriodol i unrhyw berson wrth aros am ddyfarniad y tribiwnlys.
14. Caniateir i anghydfod sy’n dod o fewn y Rhan hon gael ei ddatrys ar unrhyw adeg drwy gytundeb rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad, naill ai yn ysgrifenedig neu fel arall.