xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Trethi, Cymru
Gwnaed
23 Hydref 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26 Hydref 2017
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(1), 27(7)(a), 101(3) a (4), 163(1) a (2), a 189(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018 ac eithrio rheoliadau yn Rhannau 1 a 2 sy’n dod i rym ar 21 Tachwedd 2017.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf CRhT” (“the TCM Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016;
ystyr “derbynnydd yr hysbysiad” (“notice recipient”) yw’r trethdalwr y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 86 o’r Ddeddf CRhT neu drydydd parti y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 87 neu 89 o’r Ddeddf CRhT, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ei ran;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw diwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn yr ystyr a roddir i “non-business days” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882(2);
ystyr “dogfen” (“document”) yw gwybodaeth, dogfen neu ran o ddogfen; ac
ystyr “dogfen y mae anghydfod yn ei chylch” (“document in dispute”) yw dogfen y mae anghydfod yn ei chylch rhwng ACC a pherson sydd wedi cael hysbysiad gwybodaeth, o ran a yw’r ddogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.
3. Mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi ei ragnodi fel person y caiff ACC ddirprwyo iddo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi o dan adran 14(1) o’r Ddeddf CRhT.
4. Mae’r cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2018 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 wedi ei ragnodi fel y cyfnod cynllunio cyntaf at ddibenion adran 27(7)(a) o’r Ddeddf CRhT.
5.—(1) Yn y Rhan hon, “cyfradd Banc Lloegr” sy’n gymwys ar gyfer diwrnod yw’r gyfradd banc swyddogol a gyhoeddwyd ddiwethaf yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhaliwyd cyn y diwrnod hwnnw.
(2) Ond pan fo diwrnod yn dod o fewn 3 diwrnod gwaith i gyfarfod y gwnaed y cyhoeddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ynddo, ystyr “cyfradd Banc Lloegr” ar gyfer y diwrnod hwnnw yw’r gyfradd a bennir o dan y paragraff hwnnw fel pe na bai’r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal.
6. Y gyfradd llog taliadau hwyr at ddibenion adran 157 o’r Ddeddf CRhT yw’r ganran y flwyddyn a ganfyddir drwy ddefnyddio’r fformiwla a ganlyn—
7. Y gyfradd llog ad-daliadau at ddibenion adran 161 o’r Ddeddf CRhT yw pa un bynnag o’r canlynol sydd uchaf—
(a)0.5% y flwyddyn; a
(b)cyfradd Banc Lloegr.
8. Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a)pan fo ACC wedi dyroddi hysbysiad gwybodaeth i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
(i)yn ystod gohebiaeth; neu
(ii)yn ystod archwiliad o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT, a
(b)pan fo anghydfod rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad o ran a yw dogfen y gofynnwyd amdani yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.
9. Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar—
(a)unrhyw ofyniad o dan hysbysiad gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen nad oes anghydfod yn ei chylch; na
(b)y pwerau o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT i archwilio mangreoedd ac eiddo arall.
10.—(1) Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(i).
(2) Ar ôl cael hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a)pennu mewn rhestr bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch, ynghyd â disgrifiad o natur a chynnwys y ddogfen honno; a
(b)cyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a roddir yn yr hysbysiad gwybodaeth ar gyfer cyflwyno’r ddogfen.
(3) Ond nid yw disgrifiad o’r ddogfen yn ofynnol pan fyddai disgrifiad o’r fath yn arwain at anghydfod dros fraint.
(4) O fewn 20 diwrnod gwaith i gael y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2), rhaid i ACC hysbysu derbynnydd yr hysbysiad am unrhyw ddogfen ar y rhestr y mae’n ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ac y mae’n ystyried ei bod yn anfreintiedig.
(5) Ar ôl cael yr hysbysiad o dan baragraff (4), rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a)cyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n cytuno ei bod yn anfreintiedig; a
(b)i’r graddau bod anghydfod yn parhau ynghylch statws unrhyw ddogfen, gwneud cais i’r tribiwnlys.
(6) Rhaid i gais o dan baragraff (5)(b)—
(a)mynd gyda chopi o’r dogfennau y mae anghydfod yn parhau yn eu cylch; a
(b)cael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol y mae derbynnydd yr hysbysiad ac ACC i gytuno arno, ond mewn unrhyw achos, yn ddim hwyrach na 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad a roddir gan ACC o dan baragraff (4).
11.—(1) Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(ii).
(2) Ar ôl cael yr hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a)dangos i ACC bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch; a
(b)rhoi unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol sy’n rhwystro’r cynnwys rhag bod yn weladwy.
(3) Rhaid i’r cynhwysydd—
(a)cael ei selio, ei labelu a’i lofnodi gan dderbynnydd yr hysbysiad;
(b)cael ei gydlofnodi gan ACC; ac
(c)cael ei gadw gan ACC.
(4) O fewn 42 diwrnod gwaith i gael y cynhwysydd, rhaid i ACC—
(a)danfon y cynhwysydd i’r tribiwnlys gyda’r sêl yn gyflawn ynghyd â chais i’r tribiwnlys; a
(b)anfon copi o’r cais hwnnw at dderbynnydd yr hysbysiad.
12. Pan fo derbynnydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn y Rhan hon, mae’r person hwnnw i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch hyd nes bod y tribiwnlys yn dyfarnu ar statws y ddogfen neu hyd nes y deuir i gytundeb o dan reoliad 14.
13.—(1) Pan wneir cais o dan reoliad 10(5)(b) neu 11(4), rhaid i’r tribiwnlys—
(a)datrys yr anghydfod drwy gadarnhau a yw’r ddogfen yn freintiedig ai peidio, ac i ba raddau; a
(b)cyfarwyddo pa ran neu rannau o ddogfen (os oes rhai) y mae rhaid eu datgelu.
(2) Rhaid i’r tribiwnlys sicrhau nad yw unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch yn cael ei datgelu’n amhriodol i unrhyw berson wrth aros am ddyfarniad y tribiwnlys.
14. Caniateir i anghydfod sy’n dod o fewn y Rhan hon gael ei ddatrys ar unrhyw adeg drwy gytundeb rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad, naill ai yn ysgrifenedig neu fel arall.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer materion amrywiol sy’n ymwneud â gweinyddu’r trethi datganoledig.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi Corff Adnoddau Naturiol Cymru fel person y caiff Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) ddirprwyo iddo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi.
Mae rheoliad 4 yn pennu y bydd cyfnod cynllunio cyntaf ACC (at ddibenion ei gynllun corfforaethol) yn cychwyn ar 1 Ebrill 2018 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadau. Mae rheoliad 5 yn darparu y cyfrifir y cyfraddau llog drwy gyfeirio at gyfradd Banc Lloegr a gyhoeddwyd ddiwethaf yng nghyfarfod diweddaraf Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr. Ond pan fo’r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal o fewn 3 diwrnod gwaith i’r dyddiad y caiff y llog ei gyfrifo, cyfrifir y cyfraddau llog fel pe na bai’r cyfarfod diwethaf hwnnw wedi ei gynnal.
Mae Rhan 4 yn nodi’r gweithdrefnau sy’n gymwys ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau o ran a yw gwybodaeth neu ddogfen y mae ACC yn gofyn amdani o dan y pwerau a roddir gan Ran 4 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf CRhT”), wedi ei diogelu gan fraint broffesiynol gyfreithiol.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn glir fod rhaid darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfen nad yw mewn anghydfod, y mae ACC yn gofyn amdani, i ACC yn unol â’r hysbysiad a ddyroddwyd.
Mae rheoliad 10 yn pennu’r weithdrefn ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud ag unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae ACC yn gofyn amdani yn ystod gohebiaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid i’r person sy’n cael yr hysbysiad (“derbynnydd yr hysbysiad”) lunio rhestr o unrhyw ddogfennau y mae’n eu hystyried yn freintiedig. Mae rheoliad 10(2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i dderbynnydd yr hysbysiad gyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer y weithdrefn pan fo ACC yn gofyn am ddogfen yn ystod archwiliad o fangre. Yn yr achosion hyn, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad osod unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol y mae rhaid ei roi i ACC. Mae rheoliad 11(4) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC wneud cais i’r tribiwnlys ystyried a datrys yr anghydfod o fewn 42 diwrnod gwaith.
Mae rheoliad 12 yn darparu bod derbynnydd yr hysbysiad i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch sy’n aros am benderfyniad gan y tribiwnlys neu hyd nes y bydd derbynnydd yr hysbysiad ac ACC yn dod i gytundeb.
Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r tribiwnlys ddatrys yr anghydfod a chyfarwyddo datgeliad unrhyw ddogfen (neu unrhyw ran o ddogfen) y mae’n dod i’r casgliad ei bod yn anfreintiedig.
Mae rheoliad 14 yn darparu y caiff derbynnydd yr hysbysiad ac ACC gytuno i ddatrys yr anghydfod ar unrhyw adeg cyn i’r tribiwnlys ddod i benderfyniad.
Yn unol â rheoliad 1(2), daw Rhannau 1 a 2 i rym ar 21 Tachwedd 2017, a daw gweddill y darpariaethau i rym ar 1 Ebrill 2018.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.