xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 970 (Cy. 239)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

6 Hydref 2016

Yn dod i rym

7 Hydref 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 144(8)(c)(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn(2).

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo yn unol ag adran 144(8ZA)(3) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Hydref 2016.

Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998

2.  Ym mharagraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn lle “Local Government Boundary Commission for Wales” rhodder “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

6 Hydref 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, drwy newid disgrifiad un o’r cyrff a restrir yn yr Atodlen honno. Mae’r cyfeiriad at Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae hyn yn dilyn ailenwi’r corff corfforaethol hwnnw o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

(1)

Breiniwyd y pŵer i wneud gorchymyn o dan adran 144(8)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn wreiddiol yn yr Ysgrifennydd Gwladol ond diwigiwyd adran 144(8) gan baragraff 45(7)(a) o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 er mwyn rhoi Gweinidogion Cymru yn lle’r Ysgrifenydd Gwladol.

(3)

Ychwanegwyd is-adran (8ZA) o adran 144 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 gan baragraff 45(8) o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)