Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.
3
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
2
Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 20102 (“Gorchymyn 2010”) wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 5 o’r Gorchymyn hwn.
3
Yn erthygl 2 o Orchymyn 2010—
a
yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;
b
yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 3 i 7.” rhodder “yn erthyglau 3 i 7 ac 16 o’r Gorchymyn hwn.”.
4
Yn erthygl 8 o Orchymyn 2010—
a
yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;
b
yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 9 i 15” rhodder “yn erthyglau 9 i 16 o’r Gorchymyn hwn.”.
5
Ar ôl erthygl 15 o Orchymyn 2010 mewnosoder—
16
1
Nid yw person yn darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd os ac i’r graddau—
a
mai dim ond darparu gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed y mae’r person; a
b
bod unrhyw ofal a ddarperir yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth ieuenctid hwnnw.
2
Yn yr erthygl hon ystyr “gwasanaeth ieuenctid” (“youth service”) yw gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3).
3
At ddibenion paragraff (2), y mathau o weithgaredd yw’r rhai—
a
sy’n annog, yn galluogi neu’n cynorthwyo pobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed i gymryd rhan yn effeithiol:
i
mewn gweithgareddau hamdden;
ii
mewn addysg a hyfforddiant;
iii
ym mywyd eu cymunedau; a
b
pan na fo’n ofynnol i’r person ifanc dalu am gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r fath neu pan fo’n ofynnol iddo dalu swm nominal yn unig am wneud hynny.