2016 Rhif 87 (Cy. 41)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 24(2) a (3), 25, 26(2) a (3), 27, 28(3), 30, a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20101.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.
3
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
2
Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 20102 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3
Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
mae i “mangre” (“premises”) yr ystyr a roddir yn adran 71 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
4
Yn rheoliad 5 (tystysgrif gofrestru), hepgorer is-baragraff (ch).
5
Yn rheoliad 6 (y person cofrestredig: ei addasrwydd), ym mharagraff (1), yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.
6
Yn rheoliad 20 (diogelu a hyrwyddo lles)—
a
ym mharagraff (2) yn lle “yn addas i gael cyswllt o’r fath” rhodder “yn addas i gael cyswllt â phlant”; a
b
ym mharagraff (4), ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosoder “pan fo’n briodol,”.
7
Yn rheoliad 28 (addasrwydd gweithwyr), ym mharagraff (6)(c), yn lle “y person” yn yr ail le y mae’n ymddangos rhodder “ef”.
8
Yn rheoliad 37 (addasrwydd y fangre)—
a
ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i’r person cofrestredig” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r person cofrestredig”;
b
ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
6
Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson cofrestredig sy’n darparu gofal dydd drwy ddarpariaeth chwarae mynediad agored.
9
Yn Atodlen 1, Rhan 1 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: gwarchod plant)—
a
ym mharagraffau 2, 4, a 5 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
b
yn lle paragraff 6 rhodder—
6
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.
c
ym mharagraffau 8, 9, a 10 (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; a
d
yn lle paragraff 13(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—
13
1
Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
a
yn byw yn y fangre berthnasol,
b
yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
c
yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,
yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.
10
Yn Atodlen 1, Rhan 2 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: darparwyr gofal dydd)—
a
ym mharagraffau 15, 17 a 18 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
b
yn lle paragraff 19 rhodder—
19
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.
c
ym mharagraffau 21(a), 21(b), 22 a 23 (gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
d
yn lle paragraff 24 rhodder—
24
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol.
e
ym mharagraffau 27, 28 a 29 (gofynion mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
f
yn lle paragraff 30 rhodder—
30
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb.
g
ym mharagraffau 32, 33 a 34 yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac
h
yn lle paragraff 37(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—
37
1
>Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
a
yn byw yn y fangre berthnasol,
b
yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
c
yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,
yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.
11
Yn Atodlen 2, Rhan 1 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant)—
a
ym mharagraffau 2(3) a 5(b) (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
b
ym mharagraff 11(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac
c
ym mharagraffau 17 a 20(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.
12
Yn Atodlen 2, Rhan 2 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd)—
a
ym mharagraffau 22(3) a 22(5)(ch)(ii) (gwybodaeth am y ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
b
ym mharagraffau 24(3)(a), 24(3)(b) a 24(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
c
ym mharagraffau 25(3) a 25(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am y person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
d
ym mharagraff 34(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac
e
ym mharagraffau 40 a 46(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed”, ym mhob lle y mae’r geiriau’n digwydd, rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)