- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ansawdd a Chyflenwad Dŵr (Ffioedd) (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) 2016 a daw i rym ar 8 Medi 2016.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir o dan adran 86(1) o Ddeddf 1991 (aseswyr gorfodi ansawdd dŵr)(1);
ystyr “cyflenwr dŵr perthnasol” (“relevant water supplier”) yw—
cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr(2) y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru; neu
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.
3.—(1) Caiff y Prif Arolygydd Dŵr Yfed(5) godi ffi ar gyflenwr dŵr perthnasol, a honno’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am arfer y swyddogaethau yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen gan arolygydd.
(2) Pennir y ffi a godir o dan baragraff (1) yn unol â’r ffi a restrir mewn perthynas â’r swyddogaeth honno yng ngholofn 2 o’r tabl yn yr Atodlen.
(3) Os arferir swyddogaeth a bennir ym mharagraffau (b), (c) neu (d) yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen gan fwy nag un arolygydd, rhaid agregu’r amser a dreuliwyd gan bob arolygydd at ddiben cyfrifo swm y ffi sy’n daladwy.
4.—(1) Mae Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012(6) (“Gorchymyn 2012”) wedi ei ddirymu.
(2) Mae Gorchymyn 2012 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw gan arolygydd cyn 8 Medi 2016.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2016
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: