Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 812 (Cy. 202)

Aer Glân, Cymru

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2016

Gwnaed

26 Gorffennaf 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Gorffennaf 2016

Yn dod i rym

22 Awst 2016

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 22 Awst 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993

2.  Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a’r tanwyddau a ddisgrifir yn yr Atodlen yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993.

Dirymu

3.  Mae Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2015(2) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

26 Gorffennaf 2016

Rheoliad 2

YR ATODLENTANWYDDAU AWDURDODEDIG

1.  ALDI Winter Flame Smokeless Fuela weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sydd naill ai’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d)sy’n pwyso naill ai 50 neu 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

2.  Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, Swydd Durham, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 75% o’r cyfanswm pwysau), glo anweddolrwydd-isel a golosg adweithiol (sef tua 20 i 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

3.  Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd gyda hicyn ar ffurf llinell sengl ar un ochr a hicyn ar ffurf llinell ddwbl ar yr ochr arall;

(d)sy’n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

4.  Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp clustog;

(d)sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

5.  Boncyffion tân Big K Instant Lighting Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

6.  Siarcol Big K Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Big K Products UK Limited yn Parque Industrial Alvear, 2126 Alvear, Provincia de Santa Fe, yr Ariannin—

(a)a gyfansoddir o bren quebracho gwyn a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 450°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

7.  Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tuag 20 i 30% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 12 i 22% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

8.  Boncyffion tân Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 255 o filimetrau o hyd gyda diamedr o 75 o filimetrau, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol:

(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

9.  Brics glo Bord na Móna Firepak (a farchnetir hefyd fel brics glo Arigna Special), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tuag 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio, ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

10.  Brics glo Brazier, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sydd naill ai’n frics heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d)sy’n pwyso naill ai 50 neu 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

11.  Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

12.  Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp clustog gyda hicyn ar ffurf llinell yn rhedeg yn hydredol o gwmpas y fricsen;

(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

13.  Brics glo Briteheat Plus, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 75 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

14.  Boncyffion tân Bryant and May Firelogs, a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—

(a)a gyfansoddir o gwyr paraffin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau), pren poplys mâl (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau), blawd gwenith (sef tua 15% o’r cyfanswm pwysau), solidau cyneuadwy ar wasgar mewn cwyr paraffin ar ffurf jel (sef tua 1 % o’r cyfanswm pwysau) a dŵr, cyfryngau chwyddo a chadwolyn (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys allwthio;

(c)sydd â’u trawstoriad yn gwadrant gyda radiws o tua 80 o filimetrau a’u hyd tua 265 o filimetrau gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl;

(d)sy’n pwyso tuag 1.15 cilogram; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

15.  Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—

(a)a gyfansoddir o gols glo meddal (sef tua 45 i 95% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 110°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

16.  Coalite, a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, ger Chesterfield, Swydd Derby ac yn Grimethorpe, De Swydd Efrog drwy ddefnyddio proses o garboneiddio ar dymheredd isel.

17.  Brics glo Coalite Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260ºC;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd tua 84.2 o filimetrau o hyd x 61.5 o filimetrau x 37.8 o filimetrau;

(d)sy’n pwyso 118 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

18.  Golosg a weithgynhyrchir gan—

(a)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, ac a werthir fel “Sunbrite”;

(b)Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, De Swydd Efrog ac a werthir fel “Sunbrite” neu “Monckton Boiler Beans”;

(c)Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland ac a werthir fel “Redcar Coke Nuts (Doubles)”; a

(d)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf ac a werthir fel “Cwm Coke Doubles”.

19.  Cosycoke (a farchnetir hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus), a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, De Swydd Efrog ac Aimcor Supercoke (a farchnetir hefyd fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, ac ym mhob achos—

(a)a gyfansoddir o olosg caled o faint penodol (sef tua 45 i 65% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy eu blendio;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

20.  Siarcol Direct Charcoal Blue Bag Premium Grade Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Direct Charcoal yn Ekamanzi Road, Dalton, KwaZulu Natal, Gweriniaeth De Affrica—

(a)a gyfansoddir o bren Acacia mercii a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 420 i 480°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

21.  Brics glo Cosyglo Smokeless a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 35 i 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tuag 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts neu rwymwr organig arall (hyd at 5% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd tua 80 o filimetrau o hyd, 60 o filimetrau o led a 40 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 110 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.8% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

22.  Siarcol CPL Restaurant Grade Charcoal – a weithgynhyrchir gan Kunfayakun Global Treasures Limited (KGT) yn Kunfayakun Stores, No. 1, Aranse Street, Station, Sagamu, Orgub State E17, Shagamu International Market, Nigeria—

(a)a gyfansoddir o Anogeissus Leiocarpus Burkea Africana, Distemonanthus Benthamianus a Viteloria Paracloxum wedi eu pyrolysu;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 450°C i 550°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 50 a 180 o filimetrau; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

23.  Siarcol Direct Charcoal Blue Bag Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Direct Charcoal Limited yn Ruta 25, km. 9,5 –Pilar (cp.1629) Buenos Aires, yr Ariannin—

(a)a gyfansoddir o bren Quebracho gwyn a phren Guayacan wedi eu pyrolysu;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 420 i 480°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

24.  Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lwch y tŵr (sef tua 95% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â’r llythyren “T” ar un ochr;

(d)sy’n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1% o’r cyfanswm pwysau.

25.  Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lwch y twr (sef tua 95% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1% o’r cyfanswm pwysau.

26.  Boncyffion tân Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt BV, Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr petrolewm mwynol (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a ffibr pren caled mâl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 320 o filimetrau o hyd, 90 o filimetrau o uchder ac 85 o filimetrau o led;

(d)sy’n pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

27.  Brics glo Ecoal (a farchnetir hefyd fel brics glo Homefire Ecoal a Supertherm 30), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300ºC;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd fel arfer yn 72 o filimetrau o hyd, 58 o filimetrau o led a 42 o filimetrau o uchder neu sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio sydd fel arfer yn 70 o filimetrau o hyd, 73 o filimetrau o led a 39 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 125 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

28.  Brics glo Ecoal 50, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 30 i 55% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 25 i 35% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 5% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig naturiol (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a’u trin wedyn â gwres o tua 300ºC mewn amgylchedd rheoledig gydag ocsigen gostyngedig;

(c)sy’n frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws y wynebau gwastad;

(d)sy’n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

29.  Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 96% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd mewn dau faint;

(d)sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

30.  Brics glo EDF Fuel, a weithgynhyrchir gan The Green Factory yn y Laboratoire de Chimie Agro-industrielle UMR 1010 INRA/INP-ENSIACET AGROMAT, Site de l’ENIT 47, Avenue D’Azereiz, -BP 1629 65016 Tarbes Cedex, Ffrainc—

(a)a gyfansoddir o tua 100 gram o Miscanthus heb ei brosesu (sef tua 45% o’r cyfanswm pwysau), tua 95 gram o ester Copra (sef tua 43% o’r cyfanswm pwysau), a thua 25 gram o rwymwr a gynhyrchwyd o Miscanthus (wedi ei brosesu â chalsiwm ocsid, sy’n ffurfio tua 0.5% o’r cyfanswm pwysau), sef gweddill y pwysau;

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys prosesu Miscanthus, cymysgu, poethwasgu, a throchi mewn baddon ester;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp silindr, 120 o filimetrau o uchder gyda diamedr o 60 o filimetrau, a thwll canolog ar siâp seren yn treiddio drwy hyd hiraf y fricsen;

(d)sy’n pwyso 220 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

31.  Brics glo Excel+, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef 65 i 70% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);

(b)a gynhyrchir ar y tymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sgwâr;

(d)sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau.

32.  Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft GmbH yn Hückelhoven, yr Almaen—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 95.5% o’r cyfanswm pwysau) a lleisw amoniwm lignosylffonad yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo ag arlliw ariannaidd ar siâp clustog, wedi eu marcio â’r llythrennau “S” a “J”;

(d)sy’n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(e)sydd â’u cynnwys o sylffwr tuag 1.2% o’r cyfanswm pwysau.

33.  Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—

(a)a gyfansoddir o lychau Cymreig wedi eu golchi (sef tua 92% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o byg glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 330°C;

(c)sy’n ofoidau gyda thair llinell ar un ochr a’r ochr arall yn llyfn;

(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.8% o’r cyfanswm pwysau.

34.  Brics glo Firegold – a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 36 i 51% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd fel arfer yn 54 o filimetrau o hyd, 58 o filimetrau o led a 34 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 87 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

35.  Siarcol G N Grosvenor (Fuel Express) Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Pabensa S.A. Aviadores del Chaco, Asuncion, Paraguay—

(a)a gyfansoddir o’r coedydd caled Prosopsis nigra, Cordia alliodora, Centrolobium, Prosopsis kuntzei, Caesalpinia, Goncalo alves a Tabebuia wedi eu pyrolysu;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tuag 800°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol rhwng 20 a 120 o filimetrau, heb eu marcio; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

36.  Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 70% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tuag 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), cols (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)nad yw eu cynnwys o ddeunydd anweddol, fel brics glo gorffenedig, yn llai na 9% nac yn fwy na 15% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych;

(d)sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio;

(e)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(f)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

37.  Boncyffion tân Homefire Fire Logs, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenbugerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 280 o filimetrau o hyd a 75 o filimetrau x 75 o filimetrau, gydag un rhigol ar hyd pob un o’u pedwar wyneb sydd â’u hyd yn 280 milimetr;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

38.  Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 57% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 17% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 13% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

39.  Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 50 i 75% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tuag 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

40.  Hot Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—

(a)a gyfansoddir o falurion glo caled (sef tua 73% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 18% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, ac wedyn eu trin â gwres o tua 250 i 280ºC;

(c)sy’n frics glo, ar siâp gobennydd sydd bron yn grwn, gyda diamedr o 40 o filimetrau a thrwch o tua 21 o filimetrau yng nghanol y fricsen;

(d)sy’n pwyso 23 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.5% o’r cyfanswm pwysau.

41.  HouseFuel Smokeless Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

42.  HouseFuel Smokeless Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal a golosg petrolewm (y ddau hyd at tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau) a llwch glo caled gyda rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd gyda’u dimensiynau mwyaf tua 68 o filimetrau, 63 o filimetrau a 38 o filimetrau;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

43.  Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm;

(b)a weithgynhyrchwyd o’r golosg petrolewm drwy broses sy’n cynnwys trin â gwres a chwistrellu stêm;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

44.  Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 30 i 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm Long Beach (sef tua 50 i 70% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o garbohydrad (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 150°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 33 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

45.  Boncyffion La Hacienda Easy Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

46.  Long Beach Lump nuts (a elwir hefyd yn LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals LLC, 330 Golden Shore, Suite 210, Long Beach, California 90802, Unol Daleithiau America—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 85 i 100% o’r cyfanswm pwysau), calchfaen (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a phyg tar glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys trin â gwres a chwistrellu stêm;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

47.  Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp clustog wedi eu marcio â’r llythyren “M”;

(d)sy’n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

48.  Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso naill ai 55 neu 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

49.  Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan ECL Mineral Processing Limited yn Newfield Works, Newfield, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 37 i 38% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio gwasg rholer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac yn mesur 70 o filimetrau x 62 o filimetrau x 42 o filimetrau;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

50.  Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan M&G Solid Fuels LLP, Wilton International, Wilton, Middlesbrough, TS90 8WS—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 37 to 38% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio gwasg rholer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac yn mesur 70 o filimetrau x 62 o filimetrau x 42 o filimetrau;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

51.  Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

52.  Brics glo Newflame Plus, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited, Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, gyda’u dimensiynau mwyaf tua 68 o filimetrau x 63 o filimetrau x 38 o filimetrau;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 1.9% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

53.  Brics glo Newheat, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 65% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 30 i 35% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);

(b)a gynhyrchwyd ar y tymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo hirgrwn, heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso tua 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.9% o’r cyfanswm pwysau.

54.  Boncyffion tân Optima Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

55.  Siarcol Pagan Fuel’s Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Pabensa S.A. Aviadores del Chaco, Asuncion, Paraguay—

(a)a gyfansoddir o’r coedydd caled Prosopsis nigra, Cordia alliodora, Centrolobeum, Prosopsis kuntzei, Caesalpinia, Goncalo alves a Tabebuia a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tuag 800°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio rhwng 20 a 120 o filimetrau; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

56.  Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

57.  Boncyffion tân Pyrobloc Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 265 o filimetrau o hyd ac 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

58.  Boncyffion tân Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, Dwyrain Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o sglodion pren (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o gwyr palmwydd (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys gwasgu’r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar dymheredd o tua 40°C i 50°C;

(c)sy’n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy’n gorgyffwrdd ar yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor ar yr wyneb isaf;

(d)sy’n pwyso 1.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

59.  Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, De Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 75% o’r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef tua 21% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys allwthio;

(c)sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

60.  Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp clustog, gyda hicyn ar ffurf llinell sy’n ymestyn o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

61.  Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg metelegol (sef tua 40 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys eu blendio a’u sgrinio;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.95% o’r cyfanswm pwysau.

62.  Brics glo Supacite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 240°C;

(c)sy’n ofoidau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 45 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

63.  Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o gymysgedd (mewn cyfrannedd o 19:1) o lo caled a glo canolig ei anweddolrwydd (sef tua 93% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n ofoidau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

64.  Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 36 i 51% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n ofoidau wedi eu marcio ag un llinell ledredol ar draws un wyneb i bob bricsen neu’n ofoidau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau mewn cyflwr sych.

65.  Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd sydd naill ai wedi eu marcio â hicyn ar ffurf un llinell hydredol ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn, neu sydd heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

66.  Brics glo Therma, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn gyda llinell drwy’r canol;

(d)sy’n pwyso 26 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

67.  Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 90% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.

68.  Boncyffion tân Tiger Tim, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 280 o filimetrau o hyd a 75 o filimetrau x 75 o filimetrau a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o’r pedwar wyneb sy’n 280 milimetr o hyd;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

69.  Unicite, a weithgynhyrchir gan DJ Davies Fuels Limited yn Blaenau Fuel Depot, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, neu a weithgynhyrchir gan AI Simson yn Cabby Latch, Logie ger Kirriemuir, Angus—

(a)sy’n gymysgedd o’r gwahanol danwyddau a ganlyn—

(i)nytiau mawr o lo caled, a

(ii)brics glo Union o’r disgrifiad yn is-baragraff (d) a weithgynhyrchir gan RWE Power AG yn Cologne, yr Almaen (sef dim mwy na thua 40 i 42% o gyfanswm pwysau Unicite);

(b)nad yw ei gynnwys o sylffwr yn fwy na 0.5% o’r cyfanswm pwysau;

(c)y datgenir nad yw’n danwydd awdurdodedig ond i’r graddau nad yw cyfran y brics glo Union a losgir drwy ddefnyddio Unicite yn uwch na’r ystod o ganrannau a bennir yn is-baragraff (a) (ii); a

(d)i’r graddau y’i cyfansoddir o’r brics glo Union y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) (ii), a gyfansoddir o lignit cywasgedig, gyda phob bricsen yn mesur tua 75 o filimetrau o led, 60 o filimetrau o uchder a 55 o filimetrau o drwch.

70.  Boncyffion tân Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 210 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso rhwng 1.085 ac 1.115 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

71.  Boncyffion tân Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 245 milimetr o hyd, 75 milimetr o led a 68 milimetr o uchder;

(d)sy’n pwyso rhwng 0.985 ac 1.015 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

72.  Boncyffion ZIP 100% Natural Stove Logs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 165 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso rhwng 0.835 a 0.865 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

73.  Boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log a boncyffion tân ZIP Crackling Log, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau), blawd llif pren caled (sef tua 42% o’r cyfanswm pwysau) a hadau clecian (sef tua 3.2% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd gyda diamedr o 80 o filimetrau, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

74.  Boncyffion tân ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 265 o filimetrau o hyd ac 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

75.  Boncyffion tân ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

76.  Boncyffion tân ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk BV, Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 255 o filimetrau o hyd gyda diamedr o 75 o filimetrau, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol;

(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.1% o’r cyfanswm pwysau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1517 (Cy. 176)) (“Rheoliadau 2015”).

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad, neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, os yw’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, yn rhinwedd adran 20(3) mae’n amddiffyniad os gellir profi nad drwy ddefnyddio unrhyw danwydd ac eithrio tanwydd awdurdodedig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yn rhinwedd adran 20(6), ystyr “authorised fuel” (“tanwydd awdurdodedig”) yw tanwydd y datganwyd ei fod yn danwydd awdurdodedig drwy reoliadau. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath bellach yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993.

Mae’r holl danwyddau a restrwyd yn yr Atodlen i Reoliadau 2015 yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i fod yn danwyddau awdurdodedig, ac eithrio y gwneir newid i fanyleb un tanwydd (brics glo Ecoal (a farchnetir hefyd fel brics glo Homefire Ecoal a Supertherm 30)).

Mae pedwar tanwydd ychwanegol wedi eu hawdurdodi am y tro cyntaf (ALDI Winter Flame Smokeless Fuel, Cosyglo Smokeless, CPL Restaurant Grade Charcoal a brics glo Firegold).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1993 p. 11. Trosglwyddwyd swyddogaeth berthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaeth honno bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.