2. Daw’r darpariaethau canlynol yn Neddf 2010, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eisoes, i rym ar 1 Ebrill 2016—
(a)adran 33 (cronfeydd dŵr);
(b)paragraffau 2 i 11, 13 a 14 o Atodlen 4 (cronfeydd dŵr);
(c)paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn (gweler erthygl 3);
(d)paragraffau 20 i 29, 33 i 36 a 41 o Atodlen 4.