- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2016.
2.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ddiwedd y diffiniad o “parod i’w fwyta”, hepgorer “ac”;
(ii)ar ôl y diffiniad o “parod i’w fwyta” mewnosoder—
“ystyr “Rheoliad 828/2014” (“Regulation 828/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo; ac”;
(b)ym mharagraff (3), ar ôl “(gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo)” mewnosoder “neu at Reoliad 828/2014 neu ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014,”.
(3) Yn rheoliad 10 (trosedd)—
(a)ym mharagraff (1)(a) yn lle “, neu” rhodder “;”;
(b)ym mharagraff (1)(b) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(c)ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—
“(c)ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 a bennir ym mharagraff (3).”;
(d)ar ôl paragraff (2), mewnosoder—
“(3) Y darpariaethau yn Rheoliad 828/2014 yw—
(a)Erthygl 3(1) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo;
(b)Erthygl 4 fel y’i darllenir gydag Erthygl 2.”
(4) Yn rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf)—
(a)ym mharagraff (1)(a)(i) ar ôl “darpariaeth yn FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”;
(b)ym mharagraff (2)(a) ar ôl “darpariaeth yn FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”.
(5) Yn Atodlen 1 (darpariaethau y Rheoliadau hyn sy’n cynnwys cyfeiriadau newidiadwy at FIC yn rhinwedd rheoliad 2(3))—
(a)yn y pennawd ar ôl “FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”; a
(b)yn y llinell gyntaf, ar ôl “ac eithrio’r diffiniad o “FIC””, mewnosoder “a Rheoliad 828/2014”.
(6) Yn Atodlen 4 (cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf)—
(a)yn Rhan 1, paragraff 1—
(i)ar ddiwedd is-adran (1A)(c) hepgorer “or”;
(ii)ar ddiwedd is-adran (1A)(d)(iii) hepgorer “or”;
(iii)ar ddiwedd is-adran (1A)(d)(iv) yn lle “.” rhodder—
“; or
(e)a provision of Commission Implementing Regulation (EU) No 828/2014 on the requirements for the provision of information to consumers on the absence or reduced presence of gluten in food specified in the table in Part 4 of Schedule 5 to the Food Information Regulations (Wales) 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations).”;
(b)yn Rhan 2, paragraff 2, ym mharagraff (a)(iii) ar ôl “any other provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council” mewnosoder “or Commission Implementing Regulation (EU) No 828/2014 on the requirements for the provision of information to consumers on the absence or reduced presence of gluten in food”.
(7) Yn Atodlen 5 (hysbysiadau gwella – darpariaethau FIC penodedig)—
(a)yn y pennawd, hepgorer “FIC”;
(b)ar ôl Rhan 3 mewnosoder—
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 | Y ddarpariaeth sydd i’w darllen gyda’r ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 |
---|---|
Erthygl 3(1) | Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo |
Erthygl 4 | Erthygl 2 o Reoliad 828/2014”. |
3. Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy’n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010(1) wedi eu dirymu.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
22 Mehefin 2016
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: