xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 661 (Cy. 180)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

20 Mehefin 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Mehefin 2016

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 43(c) a 57(1)(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

2.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.

3.  Yn rheoliad 6(d) (yr wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau) yn lle’r geiriau “rheoliad 9” rhodder “rheoliad 8”.

Kirsty Williams

Ysgifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

20 Mehefin 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae rheoliad 3 yn cywiro gwall teipograffyddol yn rheoliad 6(d) o Reoliadau 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

Mae adran 57(1) yn darparu’r diffiniadau o “rhagnodedig”, “a ragnodir” a “rheoliadau”.