RHAN 6Argaeledd Cyfarwyddydau etc. a Hysbysu am Benderfyniadau
Dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol24
1
Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i’r awdurdod—
a
hysbysu Gweinidogion Cymru o’r penderfyniad;
b
hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniad, drwy hysbyseb lleol, neu drwy unrhyw ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; ac
c
sicrhau bod datganiad yn cael ei roi ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu adran berthnasol o’r gofrestr honno), sydd yn cynnwys—
i
cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig ag ef;
ii
y prif resymau ac ystyriaethau y mae’r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;
iii
disgrifiad, pan fo angen, o’r prif gamau ar gyfer osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad; a
iv
gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
2
Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol o’r penderfyniad; a
b
darparu datganiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) i’r awdurdod.
3
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (2)(a), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gydymffurfio ag is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (1) mewn perthynas â’r penderfyniad yr hysbyswyd amdano yn y modd hwn fel pe bai’n benderfyniad yr awdurdod.