xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Ceisiadau

Ceisiadau: gofynion cyffredinol

12.—(1Rhaid i gais gynnwys y canlynol—

(a)y ffurflen gais a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen;

(b)ac eithrio yn achos cais a wneir yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol)(1)

(i)plan sy’n galluogi adnabod y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(ii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio’r datblygiad sy’n destun y cais arfaethedig;

(iii)copi o’r hysbysiad sy’n ofynnol gan erthygl 6 ac nad yw wedi darfod o dan baragraff (3) o’r erthygl honno;

(iv)y datganiad dylunio a mynediad sy’n ofynnol gan erthygl 14;

(v)y dystysgrif sy’n ofynnol gan erthygl 17;

(vi)yr adroddiad ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio sy’n ofynnol gan erthygl 11;

(vii)y manylion neu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru o dan adran 62(3) o Ddeddf 1990;

(viii)pan fo’n gymwys, datganiad amgylcheddol;

(ix)datganiad ysgrifenedig ynghylch unrhyw gydsyniadau eilaidd sy’n gysylltiedig â’r cais arfaethedig ac y tybia’r ceisydd fod penderfyniad ar y cydsyniad hwnnw i gael ei wneud, neu y dylid ei wneud, gan Weinidogion Cymru; a

(x)datganiad ysgrifenedig ynghylch statws trafodaethau rhwng y ceisydd a’r awdurdod cynllunio lleol mewn cysylltiad â rhwymedigaethau o dan adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio)(2).

(2Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae paragraff (1)(b)(i) neu (1)(b)(ii) yn gwneud yn ofynnol eu darparu fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir gan y ceisydd, ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.

(3Nid yw paragraff (1)(b)(vii) yn gymwys ac eithrio pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru, cyn bo’r cais wedi ei wneud, wedi cyhoeddi rhestr o ofynion ar eu gwefan; a

(b)y manylion neu’r dystiolaeth y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru eu cynnwys yn y cais yn dod o fewn y rhestr honno.

(4Rhaid i gais am ddatblygiad sy’n cynnwys gweithrediadau mwyngloddio neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithfeydd mwynau(3) gynnwys—

(a)y ffurflen gais a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), gan gynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen; a

(b)ac eithrio yn achos cais a wneir yn unol ag adran 73 o ddeddf 1990, y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b).

(5Pan wneir cais gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig rhaid i’r ceisydd, ar yr un diwrnod ag y gwneir y cais, adneuo un copi caled o’r cais gydag—

(a)Gweinidogion Cymru; a

(b)yr awdurdod cynllunio lleol.

(6Rhaid i’r ceisydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gadarnhau mewn ysgrifen wrth Weinidogion Cymru ei fod wedi cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (5)(b).

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, roi gwybod i’r awdurdod cynllunio lleol eu bod wedi cael y cais.

(8Rhaid cyflwyno cais ynghyd ag unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag—

(a)gweinyddiad dechreuol y cais

(b)unrhyw adroddiad ar yr effaith leol sy’n ofynnol o dan adran 62I(2) o Ddeddf 1990.

Ceisiadau mewn cysylltiad â thir y Goron

13.  Rhaid i gais mewn cysylltiad â thir y Goron gael ei gyflwyno ynghyd ag—

(a)datganiad bod y cais wedi ei wneud mewn cysylltiad â thir y Goron; a

(b)pan wneir y cais gan berson a awdurdodwyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod priodol, copi o’r awdurdodiad hwnnw.

Datganiadau dylunio a mynediad

14.—(1Rhaid i gais gynnwys datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) (“design and access statement”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (2).

(2Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—

(a)esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd mewn perthynas â’r datblygiad;

(b)dangos y camau a gymerwyd wrth arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd y cyd-destun hwnnw i ystyriaeth;

(c)esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y cymerwyd i ystyriaeth y polisïau ynglŷn â mynediad sydd yn y cynllun datblygu(4); a

(d)esbonio sut yr aethpwyd i’r afael ag unrhyw faterion penodol a allai effeithio ar fynediad i’r datblygiad.

Derbyn ceisiadau

15.—(1Rhaid ystyried bod Gweinidogion Cymru wedi cael “cais dilys” pan fyddant wedi cael pob un o’r canlynol—

(a)cais sydd yn unol ag erthygl 12(1);

(b)unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu am wasanaethau cyn-ymgeisio a ddarparwyd o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016(5);

(c)y ffi y cyfeirir ati yn erthygl 5(3); a

(d)y ffioedd y cyfeirir atynt yn erthygl 12(8).

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais dilys rhaid iddynt roi hysbysiad eu bod wedi derbyn y cais (“hysbysiad derbyn”) (“notice of acceptance”) i’r ceisydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol â pharagraff (4).

(3Rhoi hysbysiad o’r fath yn unol â pharagraff (2) sydd yn cyflawni derbyn y cais at ddibenion adran 62L(3) o Ddeddf 1990 (amserlen ar gyfer penderfynu ceisiadau) (a’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad yw dyddiad derbyn y cais).

(4O ran hysbysiad derbyn —

(a)rhaid ei roi mewn ysgrifen o fewn y cyfnod perthnasol;

(b)rhaid iddo gadarnhau bod y cais wedi ei dderbyn; ac

(c)caiff gynnwys pa bynnag wybodaeth arall ynglŷn â’r cais a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw cais a gawsant yn ddilys rhaid iddynt, o fewn y cyfnod perthnasol, hysbysu’r canlynol nad yw’r cais wedi ei dderbyn—

(a)y ceisydd;

(b)yr awdurdod cynllunio lleol; ac

(c)unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

(6Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) gynnwys y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r cais a gawsant yn gais dilys.

(7Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw—

(a)mewn achos pan gyflwynir datganiad amgylcheddol ynghyd â’r cais, cyfnod o 42 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais, neu pa bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru; neu

(b)mewn achos pan na chyflwynir datganiad amgylcheddol ynghyd â’r cais, cyfnod o 28 diwrnod, sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais, neu pa bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau o geisiadau am ganiatâd cynllunio

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geisydd roi hysbysiad gofynnol o’r cais i unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog, neu yn denant, unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef—

(a)drwy gyflwyno’r hysbysiad i bob person o’r fath y mae ei enw a’i gyfeiriad yn hysbys i’r ceisydd; a

(b)pan fo’r ceisydd wddi cymryd camau rhesymol i ddarganfod enwau a chyfeiriadau pob person o’r fath, ond wedi methu â gwneud hynny, drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(2Yn achos cais sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau drwy weithrediadau tanddaearol, yn hytrach na rhoi hysbysiad yn y modd y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1), rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad gofynnol o’r cais i unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) sydd, ar y dyddiad rhagnodedig, yn berchennog, neu yn denant, unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef —

(a)drwy gyflwyno’r hysbysiad i bob person y gŵyr y ceisydd ei fod yn berson o’r fath ac y mae ei enw a’i gyfeiriad yn hysbys i’r ceisydd;

(b)drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar ôl y dyddiad rhagnodedig mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef; ac

(c)drwy ei arddangos ar y safle, mewn o leiaf un man ym mhob cymuned y lleolir ynddi unrhyw ran o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, gan adael yr hysbysiad yn ei le am gyfnod o ddim llai na 7 diwrnod yn y cyfnod o 21 diwrnod yn union cyn gwneud y cais i Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i’r hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff (2)(c) (yn ychwanegol at unrhyw faterion eraill y mae’n ofynnol eu cynnwys ynddo) ddatgan cyfeiriad y wefan lle y cyhoeddir copi o’r cais ac o’r holl blaniau a dogfennau eraill a gyflwynwyd ynghyd â’r cais.

(4Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad gan y ceisydd na bai arno, gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 7 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) wedi dod i ben, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw’r ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.

(5Y dyddiad a ragnodir at ddibenion adran 65(2) o Ddeddf 1990 (hysbysiad etc o geisiadau am ganiatâd cynllunio), a’r “dyddiad rhagnodedig” (“prescribed date”) at ddibenion yr erthygl hon, yw’r dyddiad 21 diwrnod cyn dyddiad y cais.

(6Y ceisiadau a ragnodwyd at ddibenion paragraff (c) o’r diffiniad o “owner” (“perchennog”) yn adran 65(8) o Ddeddf 1990 yw ceisiadau mwynau, a’r mwynau a ragnodir ar gyfer y paragraff hwnnw yw unrhyw fwynau ac eithrio olew, nwy, glo, aur neu arian.

(7Yn yr erthygl hon—

ystyr “cais mwynau” (“minerals application”) yw cais ar gyfer datblygiad sy’n cynnwys cloddio a gweithio mwynau;

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), ond ni fydd yn cynnwys hysbysiad a gyflwynir gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig; ac

ystyr “tenant” (“tenant”) yw tenant amaethyddol, yn yr ystyr a roddir i “agricultural tenant” gan adran 65(8) o Ddeddf 1990, tir y mae unrhyw ran ohono yn gynwysedig yn y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Tystysgrifau mewn perthynas â hysbysiadau o geisiadau

17.—(1Pan wneir cais, rhaid i’r ceisydd ardystio, mewn ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu mewn ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith), fod gofynion erthygl 16 wedi eu bodloni.

(2Os oes gan geisydd reswm i ddibynnu ar baragraff (5) o erthygl 16, rhaid i’r dystysgrif ddatgan yr amgylchiadau perthnasol.

Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: Gweinidogion Cymru

18.—(1Rhaid i gais gael ei hysbysebu gan Weinidogion Cymru yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.

(2Rhaid i gais gael ei hysbysebu drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy gyhoeddi’r hysbysiad, o fewn y cyfnod perthnasol, mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth y lleolir ynddi’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(b)drwy gyflwyno’r hysbysiad, o fewn y cyfnod perthnasol, i unrhyw berchennog neu feddiannydd cyffiniol.

(3Rhaid cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru—

(a)cyfeiriad a lleoliad y datblygiad arfaethedig;

(b)disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig;

(c)y dyddiad olaf ar gyfer cael unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais;

(d)ym mhle a pha bryd y caniateir archwilio’r cais; ac

(e)sut y gellir gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais

(4Yn yr erthygl hon—

ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw cyfnod o 5 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn derbyn y cais yn unol ag erthygl 15(3); ac

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“requisite notice”) yw hysbysiad yn y ffurf briodol a nodir yn Atodlen 4 (neu ffurf sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith); ac

ystyr “perchennog neu feddiannydd cyffiniol” (“adjoining owner or occupier”) yw perchennog neu feddiannydd unrhyw dir sy’n cydffinio â’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio: awdurdod cynllunio lleol

19.—(1Rhaid i gais gael ei hysbysebu gan yr awdurdod cynllunio lleol yn y modd a ragnodir gan yr erthygl hon.

(2Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad drwy arddangos ar y safle, mewn ffurf a gyflenwir i’r awdurdod gan Weinidogion Cymru, mewn o leiaf un man o fewn ardal yr awdurdod sydd ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 21 diwrnod.

(3Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi bodloni’r gofyniad ym mharagraff (2), rhaid iddo roi gwybod i Weinidogion Cymru ei fod wedi gwneud hynny, o fewn cyfnod o 5 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad.

(4Os yw’r awdurdod cynllunio lleol yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, yn lle’r awdurdod, gymryd y camau y mae’n ofynnol i’r awdurdod eu cymryd o dan y paragraff hwnnw.

(5Pan fo’r hysbysiad, heb unrhyw fwriad gan, nac unrhyw fai ar yr awdurdod cynllunio lleol (neu Weinidogion Cymru, yn ôl fel digwydd yn unol â pharagraff (4)), gael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn bo’r cyfnod o 21 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) wedi dod i ben, trinnir yr awdurdod neu Weinidogion Cymru fel pe baent wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw os byddant wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, neu os oes angen, ei amnewid.

Cofrestr ceisiadau

20.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn y cyfnod perthnasol osod copi o’r canlynol ar y gofrestr y mae’n ofynnol ei chadw o dan erthygl 29 o Orchymyn 2012—

(a)unrhyw gais a wneir i Weinidogion Cymru;

(b)unrhyw wybodaeth ynghylch cael cais, a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 12(7);

(c)unrhyw hysbysiad derbyn, a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais, o dan erthygl 15(2);

(d)unrhyw hysbysiad nad yw cais wedi ei dderbyn felly, a roddir o dan erthygl 15(5);

(e)unrhyw hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad a roddwyd mewn perthynas â chais, o dan erthygl 29; ac

(f)unrhyw hysbysiad diwygiedig o benderfyniad i roi caniatâd cynllunio, a roddir o dan erthygl 30.

(2Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw cyfnod o 5 diwrnod gwaith sy’n dechrau gydag—

(a)mewn achos pan wneir neu pan roddir cais, gwybodaeth neu hysbysiad o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) i (e), y diwrnod y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn cael y cyfryw gais, gwybodaeth neu hysbysiad; neu

(b)mewn achos pan roddir hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(f), y diwrnod y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi’r cyfryw hysbysiad.

Sylwadau a geir gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn cysylltiad â cheisiadau

21.  Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael sylwadau mewn perthynas â chais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon y sylwadau ymlaen at Weinidogion Cymru, i’r cyfeiriad at y diben hwnnw, yr hysbysir yr awdurdod ohono gan Weinidogion Cymru.

(1)

Diwygiwyd adran 73 gan adrannau 42(2), 51(3) a 120 o Ddeddf 2004 ac Atodlen 9 i’r Ddeddf honno ac adran 35(7) o Ddeddf 2015, a chymhwyswyd hi gydag addasiadau gan erthygl 3(1) o’r Gorchymyn Cymhwyso Deddfiadau. Y ceisiadau a wneir yn unol ag adran 73 sydd i’w trin fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol yn unol ag adran 62D(6) o Ddeddf 1990 yw’r rhai sydd o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 51 o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (O.S. 2016/56) (Cy. 26).

(2)

Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf 1991 a diwygiwyd hi gan adran 174(2) o Ddeddf 2008 ac adran 7 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), a pharagraff 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(3)

Ar gyfer y diffiniad o “mineral-working deposit” gweler adran 336 o Ddeddf 1990.

(4)

Gweler adrannau 38 a 62 o Ddeddf 2004.