xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

RHAN 1Y WEITHDREFN AR GYFER HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

1.  Caiff hysbysiad cosb benodedig gynnig y cyfle i berson dalu cosb o £200 (“y gosb”) o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

2.  Caiff hysbysiad cosb benodedig hefyd gynnig y cyfle i berson dalu cosb is o £150 (“y gosb ostyngol”) os telir o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

3.  Caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu drwy bostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb at y person a ddisgrifir ar yr hysbysiad yn y cyfeiriad a ddisgrifir felly. Bernir bod y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

4.  Nid yw paragraff 3 yn atal y gosb rhag cael ei thalu drwy unrhyw ddull arall.

5.  Os yw awdurdod bwyd o’r farn na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi ei roi i berson gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod bwyd, rhaid i’r awdurdod bwyd roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

6.  Os caiff hysbysiad cosb benodedig ei dynnu’n ôl—

(a)rhaid i awdurdod bwyd ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a

(b)ni chaniateir dwyn unrhyw achos na pharhau ag unrhyw achos yn erbyn y person a gafodd yr hysbysiad ar gyfer y drosedd o dan sylw.

7.  Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n cymryd arni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid awdurdod bwyd, a

(b)sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.