xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Plant 1989 (p. 41)

102.  Yn adran 85 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)—

(a)yn is-adran (1)(1)

(i)ar ôl “accommodation” mewnosoder “in England”;

(ii)hepgorer “Local Health Board”;

(iii)ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2A)(2) yn lle “provided with accommodation by a local authority” rhodder “provided with accommodation in England by a local authority in England”;

(c)yn is-adran (3A)(b)(3) yn lle “lead director for children and young person’s services” rhodder “director of social services”;

(d)yn is-adran (4)(4) yn lle “local authority has been notified under this section” rhodder “local authority in England has been notified under this section, or under section 120 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (assessment of children accommodated by health authorities and education authorities)”.

(1)

Diwygiwyd adran 85(1) gan baragraff 118(9) o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17); gan baragraffau 47 a 55(a) o Atodlen 5 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7); gan baragraff 36(5) o Atodlen 5 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19); gan adran 17(1) a (2) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23); gan baragraff 20(1) a (2)(h) o’r Atodlen i O.S. 2007/961 (Cy. 85); gan baragraff 24(1) a (9) o Atodlen 1 i O.S. 2000/90; a chan baragraff 37(1) a (10(a) o Atodlen 2 i O.S. 2010/1158.

(2)

Mewnosodwyd is-adran (2A) gan baragraff 37(10)(b) o Atodlen 2 i O.S. 2010/1158.

(3)

Mewnosodwyd is-adran (3A) gan adran 17(1) a (3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).

(4)

Diwygiwyd adran 85A(4) gan adran 17(1) a (4) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23).