NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).

Mae Rhannau 2 i 6 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ynghylch gwella’r canlyniadau llesiant i bobl yng Nghymru y mae arnynt angen gofal a chymorth ac i ofalwyr y mae arnynt angen cymorth. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol sydd ar hyn o bryd yn sail i’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i bobl a chymorth i ofalwyr yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae’r ddeddfwriaeth sylfaenol sydd i gael ei diwygio ac sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth i oedolion a gofalwyr (“y ddeddfwriaeth gofal cymunedol gyfredol”) yn gymwys o ran Cymru yn unig. Bydd y diwygiadau sydd wedi eu gwneud yn y Rheoliadau hyn yn golygu bod y ddeddfwriaeth gofal cymunedol gyfredol wedi ei diddymu, neu (i’r graddau y mae’n parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr) na fydd bellach yn gymwys o ran Cymru ond y bydd yn parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr.

Yn gyffredinol, mae’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth i blant a’u teuluoedd wedi ei chynnwys yn Rhan 3 o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”). Bydd y diwygiadau sydd wedi eu gwneud yn y Rheoliadau hyn yn golygu na fydd Rhan 3 o Ddeddf 1989 bellach yn gymwys o ran Cymru ond y bydd, fodd bynnag, yn parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr.

Mae Rhan 7 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ynghylch diogelu oedolion a phlant hyglwyf, gan gynnwys sefydlu Byrddau Diogelu i oedolion a phlant. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Plant 2004 (“Deddf 2004”) i ddileu’r gofynion cyfredol i sefydlu Byrddau Lleol Diogelu Plant yng Nghymru.

Mae Rhan 8 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n cyflwyno Atodlen 2, sy’n pennu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol, ar gyfer gwneud codau ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac ar gyfer ymyrraeth gan Weinidogion Cymru pan fo awdurdod lleol yn methu ag arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn gywir. Mae darpariaeth ar gyfer y materion hyn wedi ei chynnwys ar hyn o bryd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 (“Deddf 1970”). Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf 1970 fel na fydd bellach yn gymwys o ran Cymru ond y bydd yn parhau i fod yn gymwys o ran Lloegr.

Mae Rhan 10 o Ddeddf 2014 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cwynion a sylwadau am wasanaethau cymdeithasol sy’n cael eu darparu neu eu trefnu gan awdurdodau lleol. Mae darpariaeth ar gyfer cwynion wedi ei chynnwys ar hyn o bryd yn Rhan 2 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (“Deddf 2003”) ac mae darpariaeth ar gyfer sylwadau mewn perthynas â phlant wedi ei chynnwys yn Rhan 3 o Ddeddf 1989. Bydd y Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf 2003 a Deddf 1989 i ddileu’r ddarpariaeth ar gyfer y materion hyn i’r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.

Yn gyffredinol, pan fo darpariaeth yn neddfwriaeth sylfaenol y DU wedi ei datgymhwyso o ran Lloegr a bwriedir na fydd yn gymwys mwyach o ran Cymru, mae’r Rheoliadau yn darparu i’r ddarpariaeth honno gael ei hepgor neu (os yw hyn yn gymwys i Ddeddf gyfan) ei diddymu. O ran rhychwant yr hepgoriad hwnnw neu’r diddymiad hwnnw, dim ond awdurdodaeth Cymru a Lloegr y caiff ei rhychwantu ac nid oes ganddo unrhyw effaith ar y ddarpariaeth honno i’r graddau y mae’n rhychwantu awdurdodaeth yr Alban neu awdurdodaeth Gogledd Iwerddon.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol a chysylltiedig i ddarpariaethau deddfwriaethol sylfaenol eraill sy’n cyfeirio, at ddibenion amrywiol, at y ddeddfwriaeth gofal cymunedol gyfredol, Deddf 1989, Deddf 2004, Deddf 1970 neu Ddeddf 2003. Mae’r diwygiadau hyn yn gwneud, mewn cysylltiad â Chymru, ddarpariaeth sy’n adlewyrchu’r darpariaethau newydd yn Neddf 2014.

Mae’r Atodlen yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed mewn cysylltiad â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau.