xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

294.  Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

295.  Yn is-adran (2)(h) o adran 15 (gwasanaethau ataliol) ar ôl “llety diogel” mewnosoder “o fewn yr ystyr a roddir yn adran 119 ac o fewn yr ystyr a roddir i “secure accommodation” yn adran 25 o Ddeddf Plant 1989”.

296.  Yn adran 37(4) (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn) ar ôl “hysbysu am blentyn o dan adran 120(2)(a)” mewnosoder “neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)”.

297.  Yn adran 53 (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach)—

(a)hepgorer is-adran (11) o’r testun Saesneg(1);

(b)ar ôl is-adran (10) mewnosoder y canlynol—

(11) Mae’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynnwys drwy wneud taliadau uniongyrchol; ac at y diben hwnnw mae Atodlen A1 (sy’n cynnwys addasiadau i adrannau 50 a 51 a’r adran hon) yn cael effaith.

298.  Yn adran 58(1) (gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi), ym mharagraff (a) yn lle “neu ei dderbyn i ysbyty” rhodder “, pan fo’n cael ei dderbyn i ysbyty”.

299.  Yn adran 76 (llety i blant sydd heb rieni, neu blant sydd ar goll neu sydd wedi eu gadael etc) ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) Pan fo awdurdod lleol yn Lloegr yn darparu llety o dan adran 20(1) o Ddeddf Plant 1989 (darparu llety i blant: cyffredinol) i blentyn sy’n preswylio fel arfer mewn ardal awdurdod lleol yng Nghymru, caiff yr awdurdod lleol hwnnw yng Nghymru gymryd drosodd y gwaith o ddarparu llety i’r plentyn o fewn—

(a)tri mis o gael ei hysbysu’n ysgrifenedig fod llety’n cael ei ddarparu i’r plentyn, neu

(b)unrhyw gyfnod hirach arall a bennir.

300.  Yn adran 77 (llety i blant sy’n cael eu hamddiffyn gan yr heddlu, neu sydd o dan gadwad neu ar remánd etc)—

(a)yn is-adran (4)(b)(i) ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

(b)yn is-adran (5) ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “neu’r awdurdod lleol yn Lloegr”.

301.  Yn lle adran 86 (cartrefi plant sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion Cymru) rhodder—

Cartrefi plant sy’n cael eu darparu, eu cyfarparu a’u cynnal gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol

86.  Pan fo awdurdod lleol yn lleoli plentyn y mae’n gofalu amdano mewn cartref plant y mae Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei ddarparu, ei gyfarparu ac yn ei gynnal o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989, rhaid iddo wneud hynny ar y telerau a’r amodau a ddyfernir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd).

302.  Yn adran 93(1) (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol) ym mharagraff (a) ar ôl “yr awdurdod lleol” mewnosoder “neu bersonau eraill”.

303.  Yn adran 95(4) (hyrwyddo a chynnal cyswllt rhwng plentyn a theulu) yn lle “oddi wrth awdurdod lleol arall (“yr awdurdod trosglwyddo”) o dan adran 76” rhodder “oddi wrth awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr o dan adran 76 (“yr awdurdod trosglwyddo”)”.

304.  Yn adran 119 (defnyddio llety i gyfyngu ar ryddid)—

(a)yn is-adran (2)(c) ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

(b)yn is-adran (6) yn lle’r geiriau o “gynrychiolaeth a fyddai’n cael ei ariannu gan” i “Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol” rhodder “y ddarpariaeth o gynrychiolaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012”;

(c)ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(11) Bydd gorchymyn a wneir o dan yr adran hon mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau i fod mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.

305.  Yn adran 120(5) (asesu plant y mae llety’n cael ei ddarparu iddynt gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg) ar ôl “awdurdod lleol wedi ei hysbysu o dan yr adran hon” mewnosoder “, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (asesu plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg)”.

306.  Yn adran 122 (ymwelwyr â phlant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt o dan adran 120 neu 121)—

(a)yn is-adran (1)(a) ar ôl “adran 120(2)(a) neu 121(2)(a),” mewnosoder “neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol),”;

(b)yn is-adran (1)(b) ar ôl “adran 120(2)(b) neu adran 121(2)(b)” mewnosoder “, neu o dan adran 85(2) o Ddeddf Plant 1989”;

(c)yn y pennawd hepgorer “o dan adran 120 neu 121”.

307.  Yn adran 123 (gwasanaethau i blant yr hysbysir awdurdod lleol amdanynt o dan adran 120 neu 121)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “adran 120 neu 121” mewnosoder “, neu o dan adran 85 o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol)”;

(b)yn y pennawd hepgorer “o dan adran 120 neu 121”.

308.  Ar ôl adran 125 (marwolaeth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol) mewnosoder—

Awdurdodaeth a gweithdrefn

Awdurdodaeth llysoedd

125A.  At ddibenion y Rhan hon, ystyr “llys” (“court”) yw’r Uchel Lys neu lys teulu.

Rheolau llys

125B.(1) Caiff awdurdod sydd â’r pŵer i wneud rheolau llys wneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer rhoi effaith i—

(a)y Rhan hon, neu

(b)darpariaethau unrhyw offeryn statudol a wneir o dan y Rhan hon,

yr ymddengys i’r awdurdod hwnnw ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus.

(2) Mae adran 93 o Ddeddf Plant 1989 (rheolau llys) yn gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran hon fel y mae’n gymwys i reolau a wneir yn unol â’r adran honno.

Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)mewn cysylltiad â’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn unrhyw achos perthnasol (gan gynnwys y modd y mae unrhyw gais i gael ei wneud neu y mae achos arall i gael ei ddechrau);

(b)o ran y personau sydd â hawlogaeth i gymryd rhan mewn unrhyw achos perthnasol, p’un ai fel partïon i’r achos neu drwy gael y cyfle i gyflwyno sylwadau i’r llys;

(c)i blant gael eu cynrychioli ar wahân mewn achos perthnasol;

(d)o ran y dogfennau a’r wybodaeth sydd i’w darparu, a’r hysbysiadau sydd i’w rhoi, mewn cysylltiad ag unrhyw achos perthnasol;

(e)mewn cysylltiad â gwrandawiadau rhagarweiniol;

(f)sy’n galluogi’r llys, o dan unrhyw amgylchiad a ragnodir, i barhau ag unrhyw gais er nad yw hysbysiad o’r achos wedi ei roi i’r ymatebydd.

(3) Yn is-adran (2)—

ystyr “a ragnodir” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi gan y rheolau;

ystyr “achos perthnasol” (“relevant proceedings”) yw unrhyw gais a wneir, neu achos a ddygir, o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) ac unrhyw ran o achos o’r fath; ac

ystyr “hysbysiad o achos” (“notice of proceedings”) yw gwŷs neu unrhyw hysbysiad arall o achos sy’n ofynnol; ac ystyr “rhoi” (“given”), mewn perthynas â gwŷs, yw “cyflwyno” (“served”).

(4) Nid yw’r adran hon nac unrhyw bŵer arall yn y Ddeddf hon i wneud rheolau llys i gael ei gymryd fel pe bai’n cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod o dan sylw i wneud rheolau llys.

(5) Wrth wneud unrhyw reolau o dan yr adran hon, bydd yr awdurdod yn ddarostyngedig i’r un gofyniad o ran ymgynghori (os oes un) ag sy’n gymwys pan fydd yr awdurdod yn gwneud rheolau o dan ei bŵer cyffredinol i wneud rheolau.

Preifatrwydd i blant sy’n rhan o achosion o dan y Rhan hon

125C.  Mae adran 97 o Ddeddf Plant 1989 (preifatrwydd i blant sy’n rhan o achosion penodol) yn gymwys mewn perthynas â phlant sy’n rhan o achosion o dan y Rhan hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â phlant sy’n rhan o unrhyw achos o dan y Ddeddf honno.

125D.(1) Rhaid i berson beidio â chyhoeddi i’r cyhoedd yn gyffredinol, nac i unrhyw ran o’r cyhoedd, unrhyw ddeunydd y bwriedir iddo sicrhau bod modd adnabod, neu sy’n debygol o olygu bod modd adnabod—

(a)unrhyw blentyn sy’n rhan o unrhyw achos gerbron yr Uchel Lys neu’r llys teulu y caiff unrhyw bŵer o dan y Ddeddf hon ei arfer ynddo gan y llys mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn; neu

(b)cyfeiriad neu ysgol fel un plentyn sy’n rhan o unrhyw achos o’r fath.

(2) Mewn unrhyw achos am drosedd o dan yr adran hon, mae’n amddiffyniad i’r sawl a gyhuddir brofi nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo unrhyw reswm dros amau, fod y deunydd a gyhoeddwyd wedi ei fwriadu i sicrhau bod modd adnabod y plentyn, neu’n debygol o olygu bod modd adnabod y plentyn.

(3) Caiff y llys neu’r Arglwydd Ganghellor, os yw wedi ei fodloni bod lles y plentyn yn gwneud hynny yn ofynnol ac, yn achos yr Arglwydd Ganghellor, os yw’r Arglwydd Brif Ustus yn cytuno, drwy orchymyn hepgor gofynion is-adran (1) i’r graddau hynny a bennir yn y gorchymyn.

(4) At ddibenion yr adran hon—

mae “cyhoeddi” (“publish”) yn cynnwys—

(a)

cynnwys mewn gwasanaeth rhaglenni (o fewn yr ystyr a roddir i “programme service” yn Neddf Darlledu 1990);

(b)

achosi i’r deunydd gael ei gyhoeddi; ac

mae “deunydd” (“material”) yn cynnwys unrhyw lun neu gynrychiolaeth.

(5) Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i’r adran hon yn euog o drosedd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(6) Caiff yr Arglwydd Brif Ustus enwebu deiliad swydd farnwrol (fel y diffinnir “judicial office holder” yn adran 109(4) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005) i arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3).

309.  Yn adran 134(2)(d) (byrddau diogelu plant a byrddau diogelu oedolion) yn lle “ymddiriedolaeth GIG” rhodder “Ymddiriedolaeth GIG”.

310.  Yn adran 162(4)(f) (trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr) yn lle “ymddiriedolaeth GIG” rhodder “Ymddiriedolaeth GIG”.

311.  Yn adran 164(4)(b) (dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) yn lle “ymddiriedolaeth GIG” rhodder “Ymddiriedolaeth GIG”.

312.  Ar ôl adran 164 (dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol) mewnosoder—

Dyletswydd personau eraill i gydweithredu a darparu gwybodaeth

164A.(1) Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer ei swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(2) Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei hangen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(3) Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(4) Y personau yw—

(a)awdurdod lleol yn Lloegr;

(b)awdurdod tai lleol yn Lloegr;

(c)Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(d)unrhyw grŵp comisiynu clinigol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(e)unrhyw bersonau eraill—

(i)a bennir gan reoliadau, neu

(ii)o ddisgrifiad a bennir gan reoliadau.

(5) Y swyddogaethau yw—

(a)swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig);

(b)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc, yn benodol y rhai hynny y mae arnynt anghenion gofal a chymorth, a’u teuluoedd ac eraill;

(c)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;

(d)unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115.

(6) Ni chaniateir i reoliadau o dan is-adran (4)(e) bennu’r personau a ganlyn heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol—

(a)un o Weinidogion y Goron, na

(b)llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr).

(7) Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” yn Neddf Tai 1985.

313.  Yn adran 166(2)(b)(ii) (trefniadau partneriaeth), yn lle “ymddiriedolaeth GIG” rhodder “Ymddiriedolaeth GIG”.

314.  Yn adran 190 (methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro), ym mharagraff (d) o is-adran (1), hepgorer is-baragraff (i).

315.  Yn adran 193 (adennill costau rhwng awdurdodau lleol)—

(a)yn is-adran (3) ar ôl “awdurdod lleol arall” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

(b)yn is-adran (4) ar ôl “awdurdod lleol arall” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

(c)yn is-adran (6)—

(i)yn lle “is-adran (7)” rhodder “is-adran (7) neu (8)”;

(ii)ar ôl “o dan adran 164(1) neu (2)” mewnosoder “, neu o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau),”;

(iii)ar ôl “yr awdurdod lleol” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”;

(d)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8) Pan fo awdurdod lleol (“awdurdod A”) yn cydymffurfio ag unrhyw gais o dan adran 27(2) o Ddeddf Plant 1989 (cydweithredu rhwng awdurdodau) gan awdurdod lleol yn Lloegr (“awdurdod B”) mewn perthynas â pherson—

(a)ac awdurdod B yw ei awdurdod cyfrifol (o fewn ystyr Rhan 3 o’r Ddeddf honno) at ddibenion adran 23B neu 23C o’r Ddeddf honno, neu

(b)y mae awdurdod B yn ei gynghori neu’n ymgyfeillio ag ef neu y mae’n rhoi cynhorthwy iddo yn rhinwedd adran 24(5)(a) o’r Ddeddf honno,

caiff awdurdod A adennill oddi wrth awdurdod B unrhyw dreuliau rhesymol a dynnwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 105 i 115 o’r Ddeddf hon mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

316.  Yn adran 194 (preswylfa arferol)

(a)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y mae’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw o dan yr adran honno wedi ei gosod arno.;

(b)hepgorer is-adran (4A) o’r testun Saesneg(2).

317.  Yn adran 195 (anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth) ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Pan fo anghydfod yn un y mae adran 30(2C) o Ddeddf Plant 1989 yn gymwys iddo (cwestiynau ynghylch pa un a yw plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr), yna nid yw is-adran (1) yn gymwys.

318.  Ar ôl adran 195 mewnosoder—

Troseddau a gyflawnir gan gyrff neu bartneriaethau

195A.(1) Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Ddeddf hon, a phrofir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2) At ddibenion yr adran hon, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforaethol.

(3) Mae achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni o dan y Ddeddf hon gan gorff anghorfforedig i gael ei ddwyn yn enw’r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un neu rai o’i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorfforaeth.

(4) Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig pan y’i collfernir o drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu allan o gronfeydd y corff hwnnw.

(5) Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd o dan y Ddeddf hon, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn cael effaith fel pe bai corfforaeth wedi ei chyhuddo.

(6) Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r corff neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r fath neu unrhyw aelod o’r fath, mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff yn euog o drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(7) Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan bartneriaeth neu bartneriaeth yn yr Alban wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

319.  Yn adran 197 (dehongli cyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd)—

(a)yn is-adran (1) yn lle’r diffiniad o “rhiant maeth awdurdod lleol” rhodder—

ystyr “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yw person sydd wedi ei awdurdodi felly yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd—

(a)

adrannau 87 a 93;

(b)

paragraff 12F o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol);;

(b)yn lle is-adran (2)(b) rhodder—

(b)mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yr ystyr a roddir i gyfeiriad yn adran 22 o Ddeddf Plant 1989 at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr;.

320.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3 (gorchmynion cyfraniadau) ar y diwedd mewnosoder—

(12) Bydd gorchymyn cyfrannu mewn perthynas â phlentyn, pe byddai fel arall yn parhau mewn grym, yn peidio â chael effaith pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.

321.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4 (gorfodi gorchmynion cyfraniadau)—

(a)hepgorer is-baragraffau (1) a (2);

(b)yn is-baragraff (3) ar ôl “unrhyw awdurdod lleol arall” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”.

322.  Hepgorer Atodlen A1 o’r testun Saesneg(3).

323.  O flaen Atodlen 1 mewnosoder y canlynol—

Atodlen A1Taliadau Uniongyrchol: Ôl-ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

Cyffredinol

1.  Mae adran 50 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion oedolyn), 51 (taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn) a 53 (taliadau uniongyrchol: darpariaeth bellach) yn gymwys mewn perthynas ag adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ond fel pe bai’r addasiadau a ganlyn wedi eu gwneud i’r adrannau hynny.

Addasiadau i adran 50

2.  Yn lle is-adran (1) o adran 50 rhodder—

(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i oedolyn y mae adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r oedolyn o dan yr adran honno.

3.  Yn is-adran (3) o’r adran honno—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “mewn cysylltiad â darparu i’r oedolyn (“A”) wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a

(b)ym mharagraff (c)(i), yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

4.  Yn is-adran (4) o’r adran honno—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth (“A”)” rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo (“A”)”, a

(b)ym mharagraff (d)(i) yn lle “o ddiwallu anghenion A” rhodder “o gyflawni ei ddyletswydd tuag at A o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

5.  Yn is-adran (5) o’r adran honno—

(a)ym mharagraff (a), yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”, a

(b)ym mharagraff (b), yn lle “tuag at y gost o ddiwallu anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

6.  Yn is-adran (6)(b) o’r adran honno, yn lle “anghenion A am ofal a chymorth” rhodder “darparu i A wasanaethau ôl-ofal o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

Addasiadau i adran 51

7.  Yn lle is-adran (1) o adran 51 rhodder—

(1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson mewn cysylltiad â phlentyn y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) yn gymwys iddo sy’n gyfatebol i’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal i’r plentyn o dan yr adran honno.

8.  Yn is-adran (3)(a) a (b) o’r adran honno, yn lle “y mae arno anghenion am ofal a chymorth” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “y mae adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn gymwys iddo”.

9.  Yn is-adran (5)(a) o’r adran honno, yn lle “ddiwallu anghenion y plentyn” rhodder “gyflawni ei ddyletswydd tuag at y plentyn o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983”.

Addasiadau i adran 53

10.  Yn is-adran (1) o adran 53—

(a)yn y geiriau agoriadol, yn lle “50, 51 neu 52” rhodder “50 neu 51”,

(b)hepgorer paragraffau (a), (b) ac (c),

(c)ym mharagraff (i), yn lle “y disodlir odanynt ddyletswydd neu bŵer awdurdod lleol i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth, neu anghenion gofalwr am gymorth, drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y disodlir y ddyletswydd honno neu’r pŵer hwnnw” rhodder “y cyflawnir odanynt ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal), drwy wneud taliadau uniongyrchol, ac i ba raddau y cyflawnir y ddyletswydd honno”, a

(d)ym mharagraff (k), yn lle “50 i 52” rhodder “50 neu 51”.

11.  Hepgorer is-adrannau (2) i (8) o’r adran honno.

12.  Ar ôl is-adran (8) o’r adran honno mewnosoder—

(8A) Rhaid i reoliadau a wneir o dan adrannau 50 a 51 bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu’r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae’r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i’r gost resymol o sicrhau’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau hynny i ddiwallu’r anghenion hynny.

13.  Yn is-adran (9) o’r adran honno—

(a)yn lle “, 51 neu 52” rhodder “neu 51”, a

(b)yn lle “gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth)” rhodder “gwasanaethau ôl-ofal”.

14.  Yn lle is-adran (10) o’r adran honno, yn lle “ofal a chymorth (neu, yn achos gofalwr, gymorth) i ddiwallu anghenion” rhodder “wasanaethau ôl-ofal”.

324.  Yn Atodlen 2—

(a)yn yr ail golofn o’r cofnod sy’n ymwneud â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn lle “Ran 2” rhodder “Ran 4”;

(b)yn y golofn gyntaf o’r cofnod sy’n ymwneud â Deddf Personau Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghori a Chynrychioli) 1986, yn lle “Adrannau 1 i 3 a 5(5)” rhodder “Adrannau 1, 2 a 5(5)”;

(c)yn lle’r cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 1989 rhodder—

Deddf Plant 1989

Y Ddeddf gyfan i’r graddau y mae’n rhoi swyddogaethau i awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr y Ddeddf ac eithrio—

(a)

Rhan 3 ac Atodlen 2 (cymorth awdurdod lleol i blant a theuluoedd);

(b)

adran 36 a pharagraffau 12 i 19(1) o Atodlen 3 (gorchmynion goruchwylio addysg).

Adroddiadau lles; cydsynio i gais am orchymyn preswylio mewn cysylltiad â phlentyn mewn gofal; swyddogaethau sy’n ymwneud â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig; gorchmynion cymorth teulu; gofal a goruchwylio; amddiffyn plant; swyddogaethau mewn perthynas â chartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a sefydliadau gwirfoddol, cartrefi plant preifat, a threfniadau preifat ar gyfer maethu plant; arolygu cartrefi plant ar ran Gweinidogion Cymru; ymchwil a dychwelebau gwybodaeth.;

(d)ar ôl y cofnod sy’n ymwneud â Deddf Plant 1989 mewnosoder—

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990
Adran 47Asesiad o anghenion am wasanaethau o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.;

(e)yn y cofnod sy’n ymwneud â Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag adran 66 mewnosoder—

Adran 67Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal perthnasol o fewn ystyr yr adran honno.

Darpariaethau trosiannol ac arbed

325.  Mae’r Atodlen (sy’n cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed) yn cael effaith.

Cyffredinol

326.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn effeithio ar weithrediad erthygl 3(1) neu (3) o Orchymyn Deddf Gofal 2014 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015(4).

(1)

Mae adran 53(11) wedi ei mewnosod gan adran 75(8) o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) ac fe’i deddfwyd yn Saesneg yn unig.

(2)

Mae adran 194(4A) wedi ei mewnosod gan adran 75(10) o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) ac fe’i deddfwyd yn Saesneg yn unig.

(3)

Mae Atodlen A1 wedi ei mewnosod gan adran 75(9) o Ddeddf Gofal 2014 (p. 23) a Rhan 2 o Atodlen 4 iddi a ddeddfwyd yn Saesneg yn unig.