xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
153. Mae Deddf Addysg 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
154. Yn adran 463(1)(b)(1) (ystyr “independent school”) ar ôl “Children Act 1989” mewnosoder “or section 74 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
155. Yn adran 515(4)(2) (darparu gwasanaethau addysgu ar gyfer meithrinfeydd dydd), yn y diffiniad o “day nursery” ar ôl “and other children)” mewnosoder “or sections 37 to 39 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (meeting care and support needs of children)”.
156. Yn adran 535(4)(3) (darparu gwasanaethau addysgu ar gyfer meithrinfeydd dydd), yn y diffiniad o “day nursery” ar ôl “and other children)” mewnosoder “or sections 37 to 39 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (meeting care and support needs of children)”.
157. Yn adran 562(3)(4) (Deddf i beidio â bod yn gymwys i bersonau a gedwir yn gaeth o dan orchymyn llys) ar ôl “Children Act 1989” mewnosoder “or section 119(4) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (use of accommodation for restricting liberty)”.
158. Yn adran 562J(1) (dehongli’r bennod) yn y diffiniad o “looked after child”, ar ôl “Children Act 1989” mewnosoder “or the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
Amnewidiwyd adran 463 gan adran 172 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32).
Amnewidiwyd adran 515(4) gan baragraff 25(1) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21).
Amnewidiwyd adran 535(4) gan baragraff 26(1) a (4) o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006.
Mewnosodwyd adran 562(3) gan adran 49(1) a (5) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.