ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 200358

Yn rheoliad 2 (dehongli) paragraff (1) o Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 200331, yn y diffiniad o “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol”, ar ôl “Ddeddf Plant 1989” mewnosoder “neu, yn ôl y digwydd, adran 74(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.