xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001

36.—(1Mae rheoliad 53 (gofyniad ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol ar sail dallineb neu unrhyw anabledd arall) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (5)—

(a)yn is-baragraff (a) yn lle “blindness” rhodder “severe sight-impairment”;

(b)yn lle is-baragraff (a)(i) rhodder y canlynol—

(i)a severely sight-impaired person in a register kept by a local authority in Wales under section 18(1) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014; or.

(3Ym mharagraff (6)—

(a)hepgorer y geiriau o “with a local authority” i “or registered”;

(b)ar ôl “(registers of sight-impaired adults)” mewnosoder “or in a register kept by a local authority in Wales under section 18(1) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.