ATODLEN 3
RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 200136
1
Mae rheoliad 53 (gofyniad ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol ar sail dallineb neu unrhyw anabledd arall) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (5)—
a
yn is-baragraff (a) yn lle “blindness” rhodder “severe sight-impairment”;
b
yn lle is-baragraff (a)(i) rhodder y canlynol—
i
a severely sight-impaired person in a register kept by a local authority in Wales under section 18(1) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014; or
3
Ym mharagraff (6)—
a
hepgorer y geiriau o “with a local authority” i “or registered”;
b
ar ôl “(registers of sight-impaired adults)” mewnosoder “or in a register kept by a local authority in Wales under section 18(1) of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.