ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol Troseddol (Gorchmynion Cyfrannu) 2013

157.  Mae rheoliad 10 (cyfrifo incwm gros blynyddol) paragraff (2)(e) o Reoliadau Cymorth Cyfreithiol Troseddol (Gorchmynion Cyfrannu) 2013(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle “or section 8(1)” rhodder “, section 8(1)”;

(b)ar ôl “the Carers and Direct Payments Act (Northern Ireland) 2002” mewnosoder “or sections 50 to 53 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

(1)

O.S. 2013/483; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2015/643, 2015/838.