xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3

RHAN 1Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi ei diddymu gan Ddeddf 2014

Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol Sifil (Meini Prawf Teilyngdod) 2013

144.  Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cymorth Cyfreithiol Sifil (Meini Prawf Teilyngdod) 2013(1), mae’r diffiniad o “special Children Act 1989 case” wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn lle “any matter described in paragraph 1(1)(a), (b) or (c) of Part 1 of Schedule 1 to the Act” rhodder “any matter described in paragraph 1(1)(a), (b), (c) or (k) of Part 1 of Schedule 1 to the Act”;

(b)ar ôl “relates to any of the following provisions of Children Act 1989” mewnosoder “or, where specified, the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”;

(c)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)section 119 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (use of accommodation for restricting liberty), to the extent that the individual to whom civil legal services may be provided is the child who is or would be the subject of the order;;

(d)yn y geiriau cloi ar ddiwedd y diffiniad, ar ôl “those provisions of the Children Act 1989” mewnosoder “or, as the case may be, the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.

(1)

O.S. 2013/104, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.