2016 Rhif 1156 (Cy. 278)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1 wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19722, adroddiad dyddiedig 9 Gorffennaf 2015 ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol yn Sir Rhondda Cynon Taf, a’i gynigion ar gyfer eu newid.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn heb eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru3.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru4.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20175.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “newydd” (“new”) mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn.

  • ystyr “presennol” (“existing”) mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19766;

    mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 14 o fapiau a farciwyd “Map Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd yn “A” i “N”, ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; a

    pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

Newidiadau i ardaloedd llywodraeth leol3

Mae newidiadau yn cael eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

Tyn-y-Nant a Llanilltud Faerdref – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol4

Mae’r rhan o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A (ward Llanilltud Faerdref)—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Llantrisant;

b

yn ffurfio rhan o ward Tyn-y-Nant yng nghymuned Llantrisant; ac

c

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tyn-y-Nant.

Llanilltud Faerdref a Thyn-y-Nant – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol5

Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B (ward Tyn-y-Nant)—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanilltud Faerdref;

b

yn ffurfio rhan o ward Llanilltud Faerdref yng nghymuned Llanilltud Faerdref; ac

c

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanilltud Faerdref.

Pentre’r Eglwys a Llanilltud Faerdref - newidiadau i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadau6

Mae’r rhannau o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C, Map D a Map E (ward Llanilltud Faerdref)—

a

yn ffurfio rhan o ward Pentre’r Eglwys yng nghymuned Llanilltud Faerdref; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentre’r Eglwys.

Tref Llantrisant a Thonysguboriau – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol7

Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F (ward Tonysguboriau)—

a

yn ffurfio rhan o ward Tref Llantrisant yng nghymuned Llantrisant; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tref Llantrisant.

Llanilltud Faerdref, Tyn-y-Nant a Thref Llantrisant – newidiadau i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i adrannau etholiadol8

Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G (ward Tyn-y-Nant a ward Tref Llantrisant)—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanilltud Faerdref;

b

yn ffurfio rhan o ward Llanilltud Faerdref yng nghymuned Llanilltud Faerdref; ac

c

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanilltud Faerdref.

Beddau a Thref Llantrisant – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i adrannau etholiadol9

Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H (ward Tref Llantrisant)—

a

wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o ward Beddau yng nghymuned Llantrisant; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Beddau.

Beddau a’r Graig – newid i ardaloedd cymunedol a newid canlyniadol i ardaloedd etholiadol10

Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I (ward Beddau)—

a

wedi ei throsglwyddo i gymuned Pontypridd;

b

yn ffurfio rhan o ward y Graig yng nghymuned Pontypridd; ac

c

yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Graig.

Diddymu cymuned Aberaman a chreu cymunedau newydd – Gogledd Aberaman a De Aberaman11

1

Mae cymuned bresennol Aberaman wedi ei diddymu.

2

Mae dwy gymuned newydd o’r enw Gogledd Aberaman a De Aberaman wedi eu creu, a ddangosir ar Fap J fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Gogledd Aberaman” a “De Aberaman” yn y drefn honno.

Diddymu cymuned Aberdâr a chreu cymunedau newydd – Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr12

1

Mae cymuned bresennol Aberdâr wedi ei diddymu.

2

Mae dwy gymuned newydd o’r enw Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr wedi eu creu, a ddangosir ar Fap K fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Dwyrain Aberdâr” a “Gorllewin Aberdâr” yn y drefn honno.

Diddymu cymuned Aberpennar a chreu cymunedau newydd – Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar13

1

Mae cymuned bresennol Aberpennar wedi ei diddymu.

2

Mae dwy gymuned newydd o’r enw Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar wedi eu creu, a ddangosir ar Fap L fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Dwyrain Aberpennar” a “Gorllewin Aberpennar” yn y drefn honno.

Cwmbach a De Aberaman – newidiadau i ardaloedd cymunedol14

Mae’r rhan o gymuned newydd De Aberaman a ddangosir â chroeslinellau ar Fap M—

a

wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o gymuned Cwmbach; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cwmbach.

Cwmbach a Dwyrain Aberpennar – newidiadau i ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol15

Mae’r rhan o gymuned Cwmbach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap N—

a

wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o gymuned newydd Dwyrain Aberpennar; a

b

yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain Aberpennar.

Llanilltud Faerdref – newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol16

Yng nghymuned Llanilltud Faerdref—

a

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Ton-Teg yw 3;

b

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pentre’r Eglwys yw 4;

c

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Llanilltud Faerdref yw 4; a

d

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Efail Isaf yw 1.

Llantrisant – newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol17

Yng nghymuned Llantrisant—

a

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tyn-y-Nant yw 3;

b

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Beddau yw 4;

c

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tref Llantrisant yw 4; a

d

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tonysguboriau yw 3.

Pontypridd – newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol18

Yng nghymuned Pontypridd—

a

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Glyncoch yw 2;

b

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Cilfynydd yw 2;

c

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Rhondda yw 4;

d

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pontypridd yw 2;

e

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Trallwng yw 3;

f

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Ilan yw 1;

g

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Canol Rhydfelen yw 2;

h

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Rhydfelen Isaf yw 1;

i

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward y Ddraenen Wen yw 2;

j

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Trefforest yw 2; a

k

nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward y Graig yw 2.

Mark DrakefordYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a hynny heb eu haddasu. Ym mis Gorffennaf 2015, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar adolygiad o ffiniau cymunedol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistrefol Sirol Rhondda Cynon Taf. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau presennol.

Effaith y Gorchymyn hwn yw gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol cymunedol. Mae newidiadau’n cael eu gwneud i ffiniau Aberdâr, Aberaman, Cwmbach, Llantrisant, Llanilltud Faerdref, Aberpennar a Phontypridd. Mae cymunedau presennol Aberaman, Aberdâr ac Aberpennar wedi eu diddymu, ac mae cymunedau newydd Gogledd Aberaman, De Aberaman, Dwyrain Aberdâr, Gorllewin Aberdâr, Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar wedi eu creu.

Mae printiau o’r mapiau ffiniau A i N y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Rhondda Cynon Taf, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol).