xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
25 Tachwedd 2016
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1) wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2), adroddiad dyddiedig 9 Gorffennaf 2015 ar ei adolygiad o drefniadau cymunedol yn Sir Rhondda Cynon Taf, a’i gynigion ar gyfer eu newid.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i roi effaith i gynigion y Comisiwn heb eu haddasu.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i’r cynigion hyn gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru(3).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(4).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2016.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017(5).
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “newydd” (“new”) mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn.
ystyr “presennol” (“existing”) mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol, yw’r ardal fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2017;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(6);
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 14 o fapiau a farciwyd “Map Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau) 2016” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd yn “A” i “N”, ac mae cyfeiriad at fap â llythyren yn gyfeiriad at fap sy’n dwyn y llythyren honno; a
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3. Mae newidiadau yn cael eu gwneud yn ardal llywodraeth leol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn unol â’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
4. Mae’r rhan o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A (ward Llanilltud Faerdref)—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llantrisant;
(b)yn ffurfio rhan o ward Tyn-y-Nant yng nghymuned Llantrisant; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tyn-y-Nant.
5. Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B (ward Tyn-y-Nant)—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanilltud Faerdref;
(b)yn ffurfio rhan o ward Llanilltud Faerdref yng nghymuned Llanilltud Faerdref; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanilltud Faerdref.
6. Mae’r rhannau o gymuned Llanilltud Faerdref a ddangosir â chroeslinellau ar Fap C, Map D a Map E (ward Llanilltud Faerdref)—
(a)yn ffurfio rhan o ward Pentre’r Eglwys yng nghymuned Llanilltud Faerdref; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentre’r Eglwys.
7. Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap F (ward Tonysguboriau)—
(a)yn ffurfio rhan o ward Tref Llantrisant yng nghymuned Llantrisant; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tref Llantrisant.
8. Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap G (ward Tyn-y-Nant a ward Tref Llantrisant)—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanilltud Faerdref;
(b)yn ffurfio rhan o ward Llanilltud Faerdref yng nghymuned Llanilltud Faerdref; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanilltud Faerdref.
9. Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap H (ward Tref Llantrisant)—
(a)wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o ward Beddau yng nghymuned Llantrisant; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Beddau.
10. Mae’r rhan o gymuned Llantrisant a ddangosir â chroeslinellau ar Fap I (ward Beddau)—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Pontypridd;
(b)yn ffurfio rhan o ward y Graig yng nghymuned Pontypridd; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol y Graig.
11.—(1) Mae cymuned bresennol Aberaman wedi ei diddymu.
(2) Mae dwy gymuned newydd o’r enw Gogledd Aberaman a De Aberaman wedi eu creu, a ddangosir ar Fap J fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Gogledd Aberaman” a “De Aberaman” yn y drefn honno.
12.—(1) Mae cymuned bresennol Aberdâr wedi ei diddymu.
(2) Mae dwy gymuned newydd o’r enw Dwyrain Aberdâr a Gorllewin Aberdâr wedi eu creu, a ddangosir ar Fap K fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Dwyrain Aberdâr” a “Gorllewin Aberdâr” yn y drefn honno.
13.—(1) Mae cymuned bresennol Aberpennar wedi ei diddymu.
(2) Mae dwy gymuned newydd o’r enw Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar wedi eu creu, a ddangosir ar Fap L fel yr ardaloedd wedi eu marcio “Dwyrain Aberpennar” a “Gorllewin Aberpennar” yn y drefn honno.
14. Mae’r rhan o gymuned newydd De Aberaman a ddangosir â chroeslinellau ar Fap M—
(a)wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o gymuned Cwmbach; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Cwmbach.
15. Mae’r rhan o gymuned Cwmbach a ddangosir â chroeslinellau ar Fap N—
(a)wedi ei throsglwyddo i ffurfio rhan o gymuned newydd Dwyrain Aberpennar; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dwyrain Aberpennar.
16. Yng nghymuned Llanilltud Faerdref—
(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Ton-Teg yw 3;
(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pentre’r Eglwys yw 4;
(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Llanilltud Faerdref yw 4; a
(d)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Efail Isaf yw 1.
17. Yng nghymuned Llantrisant—
(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tyn-y-Nant yw 3;
(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Beddau yw 4;
(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tref Llantrisant yw 4; a
(d)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Tonysguboriau yw 3.
18. Yng nghymuned Pontypridd—
(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Glyncoch yw 2;
(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Cilfynydd yw 2;
(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Rhondda yw 4;
(d)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Pontypridd yw 2;
(e)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Trallwng yw 3;
(f)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Ilan yw 1;
(g)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Canol Rhydfelen yw 2;
(h)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Rhydfelen Isaf yw 1;
(i)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward y Ddraenen Wen yw 2;
(j)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward Trefforest yw 2; a
(k)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer ward y Graig yw 2.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Tachwedd 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a hynny heb eu haddasu. Ym mis Gorffennaf 2015, cyflwynodd y Comisiwn adroddiad ar adolygiad o ffiniau cymunedol Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistrefol Sirol Rhondda Cynon Taf. Yn yr adroddiad, argymhellwyd newidiadau i nifer o ffiniau presennol.
Effaith y Gorchymyn hwn yw gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a rhai newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol cymunedol. Mae newidiadau’n cael eu gwneud i ffiniau Aberdâr, Aberaman, Cwmbach, Llantrisant, Llanilltud Faerdref, Aberpennar a Phontypridd. Mae cymunedau presennol Aberaman, Aberdâr ac Aberpennar wedi eu diddymu, ac mae cymunedau newydd Gogledd Aberaman, De Aberaman, Dwyrain Aberdâr, Gorllewin Aberdâr, Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar wedi eu creu.
Mae printiau o’r mapiau ffiniau A i N y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo a gellir edrych arnynt yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Rhondda Cynon Taf, ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol).
Enw blaenorol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) oedd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Ddeddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. O dan Ddeddf 2013, parhaodd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru i fodoli ond fe’i hailenwyd yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2). Gweler troednodyn (2) isod ar gyfer darpariaethau arbed a wnaed yn Neddf 2013 sy’n gymwys i Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 53 i 61 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi ond, yn unol ag adran 74(1) a (2) o Ddeddf 2013, maent yn parhau mewn effaith at ddiben cwblhau adolygiadau a oedd yn cael eu cynnal pan ddaeth Rhan 3 o Ddeddf 2013 i rym ar 30 Medi 2013 ac at ddiben y cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno. Diwygiwyd adran 74(2) o Ddeddf 2013 gan adran 43 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (dccc 6) er mwyn caniatáu i adolygiadau a gwblhawyd cyn 30 Medi 2013 gael eu gweithredu o dan Ddeddf 1972.
Mae adran 58(2) o Ddeddf 1972 yn darparu na chaniateir gwneud gorchymyn sy’n rhoi effaith i unrhyw gynigion a wneir i Weinidogion Cymru gan y Comisiwn tan fod chwe wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y cyflwynwyd y cynigion hynny i Weinidogion Cymru.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.
Diwygiwyd Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3033 (Cy. 302)) gan Ddeddf 1972 drwy symud y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn ôl un flwyddyn o 2016 i 2017.