xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Pensiynau, Cymru
Gwnaed
22 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Tachwedd 2016
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) i (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1)ac adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(2)fel y’u cymhwysir gan adran 16(3)(3) o’r Ddeddf honno, ac a freinir bellach ynddynt hwy(4), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2016 ond mae erthygl 2(2) yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006(5).
2.—(1) Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(6) (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol G2 (cyfraniadau pensiwn)(7)—
(a)ym mharagraff (1) yn lle “A regular firefighter shall” rhodder “Subject to paragraph (1B), a regular firefighter shall”; a
(b)cyn paragraff (2) mewnosoder—
“(1B) Paragraph (1) does not apply to a firefighter below the age of 50 who has reckoned 30 years or more pensionable service.”
(3) Yn rheol LA1(3) (sefydlu, cynnal a gweithredu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân, etc.)(8)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “; and”; a
(b)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(e)sums payable under article 3 of the Firefighters’ Pension (Wales) Scheme (Amendment and Transitional Provisions) Order 2016.”
3.—(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub dalu’r swm gofynnol fel y’i disgrifir ym mharagraff (3) i ddiffoddwr tân sy’n dod o fewn paragraff (2).
(2) Mae diffoddwr tân yn dod o fewn y paragraff hwn os talodd y diffoddwr tân gyfraniadau pensiwn yn y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2006 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2016 yn unol â rheol G2(1) o Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) nad oeddynt yn daladwy o ganlyniad i erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn.
(3) Y swm gofynnol yw cyfandaliad sy’n hafal i , pan—
A yw cyfanswm pob cyfraniad a dalwyd net unrhyw dreth a fyddai’n daladwy gan y diffoddwr tân pe na bai’r cyfraniad wedi ei dalu;
B yw’r llog ar A a gyfrifir yn unol â pharagraff (4); ac
C yw 100/60.
(4) O ran llog—
(a)rhaid ei gyfrifo ar wahân mewn perthynas â phob cyfraniad a delir; a
(b)rhaid ei gymhwyso’n adlog ar sail y gyfradd log flaenorol o ddydd i ddydd ar gyfer y cyfnod a bennir ym mharagraff (5).
(5) Mae’r cyfnod a bennir at ddibenion paragraff (4)(b) yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis y talwyd pob cyfraniad ynddo ac mae’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn y mis y telir y cyfanswm gofynnol ynddo.
(6) Pan fo taliad yn ofynnol o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â diffoddwr tân a fu farw cyn 31 Rhagfyr 2016 neu sy’n marw ar y dyddiad hwnnw neu wedyn ond cyn i’r taliad gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod tân ac achub dalu’r swm dyledus i gynrychiolwyr personol y diffoddwr tân.
(7) At ddibenion yr erthygl hon—
mae i “awdurdod tân ac achub” yr un ystyr a roddir i “fire and rescue authority” yn Neddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(9);
“cyfradd log flaenorol” (“past interest rate”) yw cyfradd sy’n gyfwerth â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr a oedd yn gymwys ar bob diwrnod o’r cyfnod a bennir ym mharagraff (5); ac
ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) yw—
y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu
pan fo gorchymyn mewn grym o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 1998(10), unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (a nodir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 fel y mae’n cael effaith yng Nghymru) (“y Cynllun”).
Mae erthygl 2(2) yn dileu’r rhwymedigaeth ar ddiffoddwyr tân i dalu cyfraniadau ar gyfer y cyfnod ar ôl iddynt ennill yr hawlogaeth pensiwn mwyaf a ganiateir nes iddynt gyrraedd 50 oed, yr oedran isaf ar gyfer tynnu allan fuddion. Mae’r newid yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2006. Mae adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 yn caniatáu i ddarpariaethau gael effaith ôl-weithredol.
Mae erthyglau 2(3) a 3 yn darparu bod unrhyw gyfraniadau o’r fath a dalwyd rhwng 1 Rhagfyr 2006 a’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym yn cael eu had-dalu. Mae’r fformiwla a nodir yn erthygl 3 yn ystyried llog a hefyd godiad sy’n adlewyrchu’r dreth a fydd yn daladwy o dan Ddeddf Cyllid 2004. O dan erthygl 2(3) gwneir taliadau o’r Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân berthnasol y mae’n ofynnol i bob awdurdod tân ac achub ei sefydlu a’i chynnal at ddibenion y Cynllun.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1947 p. 41, a ddiddymwyd gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) ac Atodlen 2 iddi. Mae is-adrannau (1) i (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith, o ran Cymru, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Drwy erthygl 4 o’r offeryn hwnnw newidiwyd enw’r Cynllun fel y mae’n cael effaith yng Nghymru yn Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru). Diwygiwyd adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27), adran 42 o Ddeddf y Lluoedd Wrth Gefn a’r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65), adran 33 o Ddeddf Dwyn 1968 (p. 60), ac Atodlen 3 iddi, adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) ac Atodlen 8 iddi, adrannau 100 a 101 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1973 (p. 38) ac Atodlen 27 iddi, adran 1 o Ddeddf Cymorth Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 (p. 18) ac Atodlen 1 iddi, adran 32 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 1 o Ddeddf Pensiynau’r Heddlu a’r Dynion Tân 1997 (p. 52), adran 256 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) ac Atodlen 25 iddi, a chan O.S. 1976/551.
1972 p. 11; diwygiwyd adran 12 gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p. 7).
Diddymwyd adran 16 gan adran 52 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac Atodlen 2 iddi, ond mae’n parhau i gael effaith, o ran Cymru, yn rhinwedd erthygl 3(2) o Orchymyn Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918 (Cy. 257)).
At ddibenion Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru), mae adran 26(1) i (5) yn cael effaith fel pe rhoddid cyfeiriad at “National Assembly for Wales” yn lle pob cyfeiriad at “Secretary of State”; gweler erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae swyddogaethau’r Cynulliad o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.
Mae pŵer i roi effaith ôl-weithredol wedi ei roi gan adran 12(1) o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11).
O.S 1992/129; fe’i diwygiwyd gan O.S.au 1997/2309 a 2851, 1998/1010, 2001/3649 a 3691, 2004/1912 a 2918 (Cy. 257), 2006/1672 (Cy. 160), 2007/1074 (Cy. 112), 2009/1226 (Cy. 109), 2010/234, 2013/736 (Cy. 88), 2014/522 (Cy. 63) a 3242 (Cy. 329) a 2015/1016 (Cy. 71).
Rhoddwyd paragraffau (1) ac (1A) yn lle paragraff (1) gan erthygl 2 o O.S. 2007/1074 (Cy. 112) ac Atodlen 1 iddo; diwygiwyd paragraff (1), a dirymwyd paragraff (1A), gan erthygl 3 o O.S. 2012/974 (Cy. 128). Gwnaed diwygiadau eraill i reol G2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Mewnosodwyd Rhan LA gan O.S. 2007/1074 (Cy. 112).