xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(1) (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol G2 (cyfraniadau pensiwn)(2)—
(a)ym mharagraff (1) yn lle “A regular firefighter shall” rhodder “Subject to paragraph (1B), a regular firefighter shall”; a
(b)cyn paragraff (2) mewnosoder—
“(1B) Paragraph (1) does not apply to a firefighter below the age of 50 who has reckoned 30 years or more pensionable service.”
(3) Yn rheol LA1(3) (sefydlu, cynnal a gweithredu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân, etc.)(3)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “; and”; a
(b)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(e)sums payable under article 3 of the Firefighters’ Pension (Wales) Scheme (Amendment and Transitional Provisions) Order 2016.”
O.S 1992/129; fe’i diwygiwyd gan O.S.au 1997/2309 a 2851, 1998/1010, 2001/3649 a 3691, 2004/1912 a 2918 (Cy. 257), 2006/1672 (Cy. 160), 2007/1074 (Cy. 112), 2009/1226 (Cy. 109), 2010/234, 2013/736 (Cy. 88), 2014/522 (Cy. 63) a 3242 (Cy. 329) a 2015/1016 (Cy. 71).
Rhoddwyd paragraffau (1) ac (1A) yn lle paragraff (1) gan erthygl 2 o O.S. 2007/1074 (Cy. 112) ac Atodlen 1 iddo; diwygiwyd paragraff (1), a dirymwyd paragraff (1A), gan erthygl 3 o O.S. 2012/974 (Cy. 128). Gwnaed diwygiadau eraill i reol G2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Mewnosodwyd Rhan LA gan O.S. 2007/1074 (Cy. 112).