Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992

2.—(1Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(1) (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol G2 (cyfraniadau pensiwn)(2)

(a)ym mharagraff (1) yn lle “A regular firefighter shall” rhodder “Subject to paragraph (1B), a regular firefighter shall”; a

(b)cyn paragraff (2) mewnosoder—

(1B) Paragraph (1) does not apply to a firefighter below the age of 50 who has reckoned 30 years or more pensionable service.

(3Yn rheol LA1(3) (sefydlu, cynnal a gweithredu Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân, etc.)(3)

(a)ar ddiwedd is-baragraff (d) yn lle “.” rhodder “; and”; a

(b)ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(e)sums payable under article 3 of the Firefighters’ Pension (Wales) Scheme (Amendment and Transitional Provisions) Order 2016.

(2)

Rhoddwyd paragraffau (1) ac (1A) yn lle paragraff (1) gan erthygl 2 o O.S. 2007/1074 (Cy. 112) ac Atodlen 1 iddo; diwygiwyd paragraff (1), a dirymwyd paragraff (1A), gan erthygl 3 o O.S. 2012/974 (Cy. 128). Gwnaed diwygiadau eraill i reol G2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(3)

Mewnosodwyd Rhan LA gan O.S. 2007/1074 (Cy. 112).