2016 Rhif 1130 (Cy. 270)
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Coming into force
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a), (e), (f), 17(1), 26(1), (2)(e) a (3), 31(1) a 48 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901.
Yn unol ag adran 48(4A)2 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.C1
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.C1
Enwi, cymhwyso a chychwynI11
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016.
2
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Rhagfyr 2016.
DehongliI22
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “casein asid bwytadwy” (“edible acid casein”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy wahanu, golchi a sychu tolch a gafwyd drwy ddefnyddio asid i waddodi llaeth sgim a/neu gynhyrchion eraill a geir o laeth ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 1;
ystyr “caseinad bwytadwy” (“edible caseinate”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy effaith casein bwytadwy neu dolch colfran casein bwytadwy gyda chyfryngau niwtraleiddio, ac sydd wedyn yn cael ei sychu ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 2;
ystyr “casein cywair llaeth bwytadwy” (“edible rennet casein”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy wahanu, golchi a sychu tolch llaeth sgim a/neu gynhyrchion eraill a geir o laeth; ceir y dolch drwy adwaith cywair llaeth neu ensymau tolchi eraill ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 3;
ystyr “cynnyrch casein” (“casein product”) yw casein asid bwytadwy, caseinad bwytadwy neu gasein cywair llaeth bwytadwy;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/20044;
mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
mae “gwerthu” (“sell”, “sale”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i’w werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu rhywbeth i’w werthu;
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008” (“Regulation (EC) No 1332/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn ymwneud ag ensymau bwyd ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, Cyfarwyddeb 2000/13/EC, Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC a Rheoliad (EC) Rhif 258/975.
CwmpasI33
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gaseinau a chaseinadau wedi eu bwriadu i’w gwerthu ar gyfer eu bwyta gan bobl.
Cyfyngu ar ddefnyddio caseinau a chaseinadau wrth baratoi bwydI44
1
Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw gasein neu gaseinad wrth baratoi bwyd os nad yw’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 4.
2
Rhaid i berson sy’n marchnata caseinau neu gaseinadau nad ydynt yn cydymffurfio â pharagraff (1), at ddiben ac eithrio defnyddio’r caseinau neu gaseinadau wrth baratoi bwyd, ddangos yn benodol, neu awgrymu’n glir natur neu ansawdd y cynnyrch neu’r defnydd y bwriedir ei wneud ohono.
Cyfyngu cyffredinol ar farchnata cynhyrchion caseinI55
1
Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label sy’n cynnwys enw unrhyw gynnyrch casein, pa un a yw wedi ei gysylltu â’r pecyn neu’r cynhwysydd neu wedi ei argraffu arno ai peidio, oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).
2
Ni chaiff unrhyw berson arddangos unrhyw docyn neu hysbysiad gydag unrhyw fwyd sy’n cael ei gynnig neu ei ddangos i’w werthu gan y person hwnnw, sy’n cynnwys enw unrhyw gynnyrch casein oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).
3
Ni chaiff unrhyw berson gyhoeddi, na bod yn rhan o gyhoeddi, unrhyw hysbyseb am fwyd sy’n cynnwys enw cynnyrch casein oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).
4
Y gofynion yw—
a
bod y bwyd yn gynnyrch casein neu yn cynnwys cynnyrch casein; neu
b
bod yr enw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd yn gynnyrch casein ac nad yw’n cynnwys cynnyrch casein.
Labelu cynhyrchion caseinI66
1
Heb leihau effaith darpariaethau FIC, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch casein oni bai ei fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r manylion a ganlyn—
a
enw’r cynnyrch casein hwnnw fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 ac, yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
b
yn achos cynhyrchion casein sy’n cael eu gwerthu fel cymysgeddau—
i
y geiriau “mixture of” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau;
ii
yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
iii
yn achos cymysgeddau sy’n cynnwys caseinadau bwytadwy, y cynnwys protein;
c
pwysau net y cynnyrch casein, wedi ei fynegi mewn cilogramau neu gramau;
d
enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithredydd busnes bwyd y marchnetir y cynnyrch o dan ei enw neu ei enw busnes, neu, os nad yw’r gweithredydd busnes bwyd hwnnw wedi ei sefydlu yn F2y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig;
e
yn achos cynnyrch casein wedi ei fewnforio o F3drydedd wlad, enw gwlad tarddiad y cynnyrch; ac
f
lot adnabod y cynnyrch casein neu’r dyddiad cynhyrchu.
2
Rhaid i’r manylion y mae paragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol fod yn hawdd i’w gweld, yn glir i’w darllen, yn annileadwy ac wedi eu rhoi yn Saesneg, naill ai yn unig neu yn ogystal ag unrhyw iaith arall.
3
Caniateir rhoi’r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii), (c), (d) ac (e) mewn dogfen sy’n cyd-fynd â’r cynnyrch.
4
Heb leihau effaith darpariaethau FIC, pan fo cynnwys protein llaeth unrhyw gynnyrch casein dros y lleiafswm a nodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw—
a
yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 1 mewn perthynas â chaseinau asid bwytadwy;
b
yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2 mewn perthynas â chaseinadau bwytadwy; neu
c
yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â chasein cywair llaeth bwytadwy,
caiff person farcio’r ffaith ar becyn, label neu gynhwysydd y cynnyrch hwnnw.
5
Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible acid casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein asid bwytadwy”.
6
Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible caseinate” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “caseinad bwytadwy”.
7
Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible rennet casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein cywair llaeth bwytadwy”.
8
Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu â “mixture of” yn unol â pharagraff (1)(b)(i) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “cymysgedd o” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau.
F19
Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.
GorfodiI77
Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r DdeddfI88
1
Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 5 at ddibenion—
a
galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau rheoliadau 4, 5, neu 6; a
b
gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn drosedd.
2
Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 5 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.
3
Nid yw paragraffau (1) a (2) yn lleihau effaith cymhwyso’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
DirymiadauI99
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
a
Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 19856;
b
Rheoliadau Caseinau a Chaseinedau (Diwygio) 19897.
F4Darpariaeth drosiannol: ymadael â’r UE10
1
Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e)—
a
os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad F5cyn 1 Ionawr 2024; a
b
os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn fethiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e) (yn ôl y digwydd) fel yr oedd y darpariaethau hynny’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2
Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 8.
I11ATODLEN 1Safonau sy’n gymwys i gaseinau asid bwytadwy
Atod. 1 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
1 | Uchafswm cynnwys lleithedd | 12% yn ôl y pwysau |
2 | Lleiafswm cynnwys protein llaeth a gyfrifir o’r echdyniad sych | 90% yn ôl y pwysau |
lleiafswm cynnwys casein y protein llaeth | 95% yn ôl y pwysau | |
3 | Uchafswm cynnwys braster llaeth | 2% yn ôl y pwysau |
4 | Uchafswm asidedd titradiadwy wedi ei fynegi fel ml o hydoddiant sodiwm hydrocsid decinormal fesul g | 0,27 |
5 | Uchafswm cynnwys lludw (yn cynnwys P2O5) | 2,5% yn ôl y pwysau |
6 | Uchafswm cynnwys lactos anhydrus | 1% yn ôl y pwysau |
7 | Uchafswm cynnwys gwaddod (gronynnau wedi llosgi) | 22,5 mg mewn 25 g |
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
I114. Cymhorthion prosesu, meithriniadau bacteriol a chynhwysion awdurdodedig
- 1
sidau:
asid lactig
asid hydroclorig
asid sylffwrig
asid citrig
asid asetig
asid orthoffosfforig
- 2
meithriniadau bacteriol sy’n creu asid lactig
- 3
Maidd
5. Nodweddion organoleptig1.
Arogl
Dim aroglau estron
2.
Ymddangosiad
Lliw yn amrywio o wyn i wyn hufennog; ni chaniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw lympiau na fyddent yn chwalu o dan bwysau ysgafn.
I12ATODLEN 2Safonau sy’n gymwys i gaseinadau bwytadwy
Atod. 2 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
1 | Uchafswm cynnwys lleithedd | 8% yn ôl y pwysau |
2 | Lleiafswm cynnwys protein llaeth a gyfrifir o’r echdyniad sych | 88% yn ôl y pwysau |
lleiafswm cynnwys casein y protein llaeth | 95% yn ôl y pwysau | |
3 | Uchafswm cynnwys braster llaeth | 2% yn ôl y pwysau |
4 | Uchafswm cynnwys lactos anhydrus | 1% yn ôl y pwysau |
5 | Gwerth pH | 6,0 hyd at 8,0 |
6 | Uchafswm cynnwys gwaddod (gronynnau wedi llosgi) | 22,5 mg mewn 25 g |
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
(cyfryngau niwtraleiddio a byffro opsiynol)
hydrocsidau | o | Sodiwm |
carbonadau | Potasiwm | |
ffosffadau | Calsiwm | |
citradau | Amoniwm | |
Magnesiwm |
1. | Arogl | Blasau ac aroglau estron ysgafn iawn |
2. | Ymddangosiad | Lliw yn amrywio o wyn i wyn hufennog; ni chaniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw lympiau na fyddent yn chwalu o dan bwysau ysgafn. |
3. | Hydoddedd | Bron yn gyfan gwbl hydawdd mewn dŵr distyll, ac eithrio caseinad calsiwm. |
I13ATODLEN 3Safonau sy’n gymwys i gaseinau cywair llaeth bwytadwy
Atod. 3 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
1 | Uchafswm cynnwys lleithedd | 12% yn ôl y pwysau |
2 | Lleiafswm cynnwys protein llaeth a gyfrifir o’r echdyniad sych | 84% yn ôl y pwysau |
lleiafswm cynnwys casein y protein llaeth | 95% yn ôl y pwysau | |
3 | Uchafswm cynnwys braster llaeth | 2% yn ôl y pwysau |
4 | Uchafswm cynnwys lludw (yn cynnwys P2O5) | 7,5% yn ôl y pwysau |
5 | Uchafswm cynnwys lactos anhydrus | 1% yn ôl y pwysau |
6 | Uchafswm cynnwys gwaddod (gronynnau wedi llosgi) | 15 mg mewn 25 g |
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
I134. Cymhorthion prosesu
cywair llaeth sy’n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/20088;
ensymau tolchi llaeth eraill sy’n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008.
5. Nodweddion organoleptig1.
Arogl
Dim aroglau estron
2.
Ymddangosiad
Lliw yn amrywio o wyn i wyn hufennog; ni chaniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw lympiau na fyddent yn chwalu o dan bwysau ysgafn.
I14ATODLEN 4Safonau sy’n gymwys i gaseinau a chaseinadau mewn bwyd
Atod. 4 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
ATODLEN 5Cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf
Rhan 1Addasu adran 10(1)
I101
Yn lle adran 10(1) rhodder—
If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any of regulations 4, 5 or 6 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
a
state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provisions;
b
specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;
c
specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
d
require the person to take measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.
I15Rhan 2Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill o’r Ddeddf
Atod. 5 Rhn. 2 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
Colofn 1 Darpariaeth y Ddeddf | Colofn 2 Addasiadau |
---|---|
Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016”. Yn is-adran (2), yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016”. |
Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall) | Yn lle “any of the preceding provisions of this Part”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) | Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 30(8) (tystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd) | Yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man y digwydd), rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 8 of, and Schedule 5 to, the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—
Yn is-adran (2), yn lle “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 8 of, and Schedule 5 to, the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” | |
Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 36A11 (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) | Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 37(1), (3), (5) a (6) (apelau) | Yn lle is-adran (1) rhodder—
Yn lle is-adran (5) rhodder—
Yn is-adran (6)— yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”, ac ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”. |
Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) | Yn lle is-adran (1) rhodder—
Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”. |
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) | Yn lle “this Act” (ym mhob man y digwydd), rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Rheoliadau wedi eu cymhwyso yn rhannol (ynghyd â addasiadau) (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Retail Movement Scheme: Public Health, Marketing and Organic Product Standards and Miscellaneous Provisions) Regulations 2023 (O.S. 2023/959), rhlau. 1(2), 4(b), Atod. 2 (ynghyd â rhlau. 7, 8)