xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 4

ATODLEN 2Personau rhagnodedig – paneli addasrwydd i ymarfer

1.—(1Person sydd am y tro yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf.

(2Person sydd am y tro wedi ei benodi’n—

(a)asesydd neu archwiliwr, neu

(b)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,

i’r panel addasrwydd i ymarfer.

2.—(1Ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi cael ei benodi i roi ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 o’r Ddeddf i fater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.

(2Ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi bod yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf mewn perthynas â mater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.

(3Ni chaiff person sy’n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o banel gorchmynion interim yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.

(4Ni chaiff person a benodir neu sydd wedi cael ei benodi’n—

(a)asesydd neu archwiliwr, neu

(b)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,

i banel gorchmynion interim yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.

(5Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys, ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi ystyried cwestiwn neu bwynt ar ran corff perthnasol neu sydd wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt ar ei ran fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.

(6Yr amgylchiadau yw—

(a)mae’r mater yn ymwneud â pherson cofrestredig sydd hefyd wedi ei gofrestru â chorff perthnasol; a

(b)mae’r corff perthnasol wedi ystyried cwestiwn neu bwynt sy’n ymwneud â chofrestriad y person cofrestredig â’r corff hwnnw ac sydd hefyd yn ymwneud â’r mater neu wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt o’r fath.