xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
15 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Tachwedd 2016
Yn dod i rym
3 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 174(5)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cyfansoddiad Paneli: Personau Rhagnodedig) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw—
Cyngor y Gweithlu Addysg(2);
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon(3);
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban(4);
y Coleg Cenedlaethol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth(5);
corff sy’n gyfrifol am reoleiddio proffesiwn y mae adran 60 o Ddeddf Iechyd 1999(6) (rheoleiddio proffesiynau iechyd, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal eraill etc.) yn gymwys iddo(7);
corff y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau a fyddai, yng Nghymru, yn cael eu rheoleiddio gan GCC(8);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “mater” (“matter”) yw’r pwnc neu’r pwynt y mae panel a sefydlir o dan adran 174(1) o’r Ddeddf yn arfer unrhyw swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef;
mae i “paneli addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(b) o’r Ddeddf;
mae i “paneli apelau cofrestru” (“registration appeals panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(a) o’r Ddeddf;
mae i “paneli gorchmynion interim” (“interim orders panels”) yr ystyr a roddir yn adran 174(1)(c) o’r Ddeddf;
mae i “person cofrestredig” (“registered person”) yr ystyr a roddir yn adran 164 o’r Ddeddf.
3. Mae person a bennir yn Atodlen 1 wedi ei ragnodi(9) at ddibenion adran 174(5)(b) o’r Ddeddf i’r graddau—
(a)ym mharagraff 1 o Atodlen 1, na chaiff y person fod yn aelod o banel apelau cofrestru;
(b)ym mharagraff 2 o Atodlen 1, na chaiff y person fod yn aelod o banel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais neu apêl sy’n ymwneud â mater penodol iddo.
4. Mae person a bennir yn Atodlen 2 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 174(5)(b) o’r Ddeddf i’r graddau—
(a)ym mharagraff 1 o Atodlen 2, na chaiff y person fod yn aelod o banel addasrwydd i ymarfer;
(b)ym mharagraff 2 o Atodlen 2, na chaiff y person fod yn aelod o banel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir mater penodol iddo.
5. Mae person a bennir yn Atodlen 3 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 174(5)(b) o’r Ddeddf i’r graddau—
(a)ym mharagraff 1 o Atodlen 3, na chaiff y person fod yn aelod o banel gorchmynion interim;
(b)ym mharagraff 2 o Atodlen 3, na chaiff y person fod yn aelod o banel gorchmynion interim yr atgyfeirir mater penodol iddo.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
15 Tachwedd 2016
Rheoliad 3
1.—(1) Person sydd am y tro yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf.
(2) Person sydd am y tro wedi ei benodi’n—
(a)asesydd neu archwiliwr, neu
(b)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,
i’r panel apelau cofrestru.
2.—(1) Pan fo panel apelau cofrestru yn ystyried cais yn unol ag adran 98 neu 99, neu apêl yn unol ag adran 101 o’r Ddeddf, ni chaiff person—
(a)sydd ar unrhyw adeg wedi cael ei benodi i roi ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 o’r Ddeddf i fater fod yn aelod o’r panel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais sy’n ymwneud â’r mater iddo;
(b)sydd ar unrhyw adeg wedi bod yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf mewn perthynas â mater fod yn aelod o banel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais sy’n ymwneud â’r mater iddo;
(c)sy’n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o banel gorchmynion interim yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais neu apêl sy’n ymwneud â’r mater iddo;
(d)a benodir neu sydd wedi cael ei benodi’n—
(i)asesydd neu archwiliwr, neu
(ii)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,
i banel gorchmynion interim yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais neu apêl sy’n ymwneud â’r mater iddo;
(e)sy’n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o banel addasrwydd i ymarfer yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais sy’n ymwneud â’r mater iddo;
(f)a benodir neu sydd wedi cael ei benodi’n—
(i)asesydd neu archwiliwr, neu
(ii)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,
i banel addasrwydd i ymarfer yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais sy’n ymwneud â’r mater iddo.
(2) Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff (3) yn gymwys, ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi ystyried cwestiwn neu bwynt ar ran corff perthnasol neu sydd wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt ar ei ran fod yn aelod o’r panel apelau cofrestru yr atgyfeirir cais neu apêl sy’n ymwneud â’r mater iddo.
(3) Yr amgylchiadau yw—
(a)mae’r cais yn cael ei wneud neu mae’r apêl yn cael ei gwneud gan berson cofrestredig sydd hefyd wedi ei gofrestru â’r corff perthnasol; a
(b)mae’r corff perthnasol wedi ystyried cwestiwn neu bwynt sy’n ymwneud â chofrestriad y person cofrestredig â’r corff hwnnw ac sydd hefyd yn ymwneud â’r mater neu wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt o’r fath.
Rheoliad 4
1.—(1) Person sydd am y tro yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf.
(2) Person sydd am y tro wedi ei benodi’n—
(a)asesydd neu archwiliwr, neu
(b)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,
i’r panel addasrwydd i ymarfer.
2.—(1) Ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi cael ei benodi i roi ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 o’r Ddeddf i fater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.
(2) Ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi bod yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf mewn perthynas â mater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.
(3) Ni chaiff person sy’n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o banel gorchmynion interim yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.
(4) Ni chaiff person a benodir neu sydd wedi cael ei benodi’n—
(a)asesydd neu archwiliwr, neu
(b)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,
i banel gorchmynion interim yr oedd ei achos yn ymwneud â mater fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.
(5) Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys, ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi ystyried cwestiwn neu bwynt ar ran corff perthnasol neu sydd wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt ar ei ran fod yn aelod o’r panel addasrwydd i ymarfer yr atgyfeirir y mater iddo.
(6) Yr amgylchiadau yw—
(a)mae’r mater yn ymwneud â pherson cofrestredig sydd hefyd wedi ei gofrestru â chorff perthnasol; a
(b)mae’r corff perthnasol wedi ystyried cwestiwn neu bwynt sy’n ymwneud â chofrestriad y person cofrestredig â’r corff hwnnw ac sydd hefyd yn ymwneud â’r mater neu wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt o’r fath.
Rheoliad 5
1.—(1) Person sydd am y tro yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf.
(2) Person sydd am y tro wedi ei benodi’n—
(a)asesydd neu archwiliwr, neu
(b)cynghorydd cyfreithiol neu gynghorydd arall,
i’r panel gorchmynion interim.
2.—(1) Ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi cael ei benodi i roi ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 o’r Ddeddf i fater fod yn aelod o’r panel gorchmynion interim yr atgyfeirir y mater iddo.
(2) Ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi bod yn ymwneud ag ymchwiliad o dan adran 125 o’r Ddeddf mewn perthynas â mater fod yn aelod o’r panel gorchmynion interim yr atgyfeirir y mater iddo.
(3) Pan fo’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys, ni chaiff person sydd ar unrhyw adeg wedi ystyried cwestiwn neu bwynt ar ran corff perthnasol neu sydd wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt ar ei ran fod yn aelod o’r panel gorchmynion interim yr atgyfeirir y mater iddo.
(4) Yr amgylchiadau yw—
(a)mae’r mater yn ymwneud â pherson cofrestredig sydd hefyd wedi ei gofrestru â chorff perthnasol; a
(b)mae’r corff perthnasol wedi ystyried cwestiwn neu bwynt sy’n ymwneud â chofrestriad y person cofrestredig â’r corff hwnnw ac sydd hefyd yn ymwneud â’r mater neu wedi dyfarnu ar gwestiwn neu bwynt o’r fath.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Sefydlwyd Cyngor Gofal Cymru (“y Cyngor”) gan Ran 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 at ddibenion hybu safonau ymddygiad ac ymarfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol a hybu safonau uchel yn eu hyfforddiant.
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ailenwi’r Cyngor yn Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”), yn ailddatgan ac yn addasu swyddogaethau gwreiddiol GCC ac yn rhoi swyddogaethau ychwanegol iddo.
Mae adran 174 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau i sefydlu paneli apelau cofrestru, paneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim. Mae adran 174(5)(a) o’r Ddeddf yn cynnwys rhestr o bersonau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o banel.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 174(5)(b) o’r Ddeddf, sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi personau ychwanegol na chaniateir iddynt fod yn aelodau o banel.
Mae rheoliad 3 a pharagraff 1 o Atodlen 1 yn rhagnodi, at ddibenion adran 174(5)(b) o’r Ddeddf, y personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o unrhyw banel apelau cofrestru; mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn rhagnodi personau ychwanegol na chaniateir iddynt fod yn aelodau o banel apelau cofrestru yr atgyfeirir mater penodol iddo. Mae rheoliadau 4 a 5 ac Atodlenni 2 a 3 yn ôl eu trefn yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â phaneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi ei sefydlu yn unol ag adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5).
Mae Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon wedi ei sefydlu yn unol ag adran 1 o Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 2001 (p. 3).
Mae Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban wedi ei sefydlu yn unol ag adran 43 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8).
Mae’r Coleg Cenedaethol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn un o asiantaethau gweithredol yr Adran Addysg.
Y cyrff hyn yw—
(i) y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol,
(ii) y Cyngor Deintyddol Cyffredinol,
(iii) y Cyngor Meddygol Cyffredinol,
(iv) y Cyngor Optegol Cyffredinol,
(v) y Cyngor Osteopathig Cyffredinol,
(vi) y Cyngor Fferyllol Cyffredinol,
(vii) y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal,
(viii) y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Gweler adran 67(3) o’r Ddeddf i gael y diffiniad o “GCC”.
Gweler adran 189 o’r Ddeddf i gael y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig”.