NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys ar y gofrestr o dan adran 91(1)(c) a (d) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

O dan adran 80(1) o’r Ddeddf, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol penodol a gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol. Mae adran 91(1)(a) a (b) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r gofrestr honno ddangos gwybodaeth benodedig sy’n ymwneud â phob person ar y gofrestr, ac mae paragraffau (c) a (d) yn darparu bod rhaid i’r gofrestr hefyd ddangos unrhyw gymwysterau eraill, gwybodaeth arall neu brofiad arall sy’n berthnasol i gofrestriad y person, ac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer, a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.