xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 No. 1097 (Cy. 261)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016

Gwnaed

15 Tachwedd 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Tachwedd 2016

Yn dod i rym

3 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 91(1)(c) a (d) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru(2).

(2Mae cyfeiriadau at adrannau yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriadau at adrannau o’r Ddeddf.

Cynnwys y gofrestr

3.—(1Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson ddangos—

(a)unrhyw gymwysterau, gwybodaeth neu brofiad a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn sydd gan y person (os oes rhai), a

(b)pan fo penderfyniad perthnasol wedi ei wneud mewn cysylltiad ag addasrwydd y person i ymarfer, yr wybodaeth a bennir yn rheoliadau 4 i 9.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad perthnasol” yw—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (3), dyfarniad gan banel addasrwydd i ymarfer bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer o dan yr adrannau a ganlyn—

(i)adran 138 (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad);

(ii)adran 152 (adolygu ymgymeriadau: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);

(iii)adran 153 (adolygu gorchmynion cofrestru amodol: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);

(iv)adran 154 (adolygu gorchmynion atal dros dro: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);

(v)adran 155 (adolygu gorchmynion atal dros dro amhenodol);

(b)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim i wneud gorchymyn interim o dan adran 144 (gorchmynion interim) neu i gadarnhau neu amrywio gorchymyn interim o dan adran 147 (adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posibl),

(c)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i gytuno ar ymgymeriadau o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) yn dilyn cyfaddefiad gan berson cofrestredig bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer,

(d)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i roi cyngor neu rybudd i berson cofrestredig o dan adran 137 (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o ddim amhariad), 152(3), 153(3), 154(3) neu 155(6) yn dilyn canfyddiad nad oes amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer,

(e)penderfyniad gan GCC i ddyroddi rhybudd i berson cofrestredig o dan adran 126(3)(c),

(f)penderfyniad gan GCC i gytuno ar ymgymeriadau â pherson cofrestredig o dan adran 126(3)(d), ac

(g)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i adfer person i’r rhan berthnasol o’r gofrestr o dan adran 98(1)(a).

(3Nid yw dyfarniad gan banel addasrwydd i ymarfer bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer yn benderfyniad perthnasol os yw’r gwarediad a wneir yn—

(a)gorchymyn dileu o dan adran 138(9) (yn ddarostyngedig i is-adran (10)), 152(8)(e), 153(9)(d) neu 154(8)(d) (yn ddarostyngedig i is-adran (9)), neu

(b)gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb o dan adran 135(2), 152(2), 153(2), 154(2) neu 155(5).

Gwybodaeth berthnasol: amhariad ar addasrwydd i ymarfer

4.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(a).

(2Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig (y “cofnod perthnasol”)—

(a)datgan y canfuwyd bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, a

(b)pennu’r ffordd y gwaredodd y panel addasrwydd i ymarfer y mater o dan adran 138 neu unrhyw un neu ragor o adrannau 152 i 155.

(3Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi cytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig, rhaid i’r cofnod perthnasol bennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.

(4Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, rhaid i’r cofnod perthnasol bennu’r amodau a osodir ar gofrestriad y person cofrestredig, ac eithrio unrhyw amodau sy’n ymwneud â’i iechyd corfforol neu ei iechyd meddwl.

(5Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol sydd wedi peidio â chael effaith, rhaid i’r cofnod perthnasol barhau i nodi bod y person yn ddarostyngedig o’r blaen i orchymyn o’r fath a’r dyddiadau pan oedd y gorchymyn yn cael effaith.

(6Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn atal dros dro sydd wedi peidio â chael effaith, rhaid i’r cofnod perthnasol barhau i nodi bod y person wedi bod yn ddarostyngedig i orchymyn o’r fath a’r dyddiadau pan oedd y gorchymyn yn cael effaith.

Gwybodaeth berthnasol: gorchmynion interim

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(b).

(2Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig—

(a)datgan y math o orchymyn interim sydd wedi ei wneud neu wedi ei gadarnhau, neu (yn achos amrywio gorchymyn interim o dan adran 147) yr amrywiad sydd wedi ei wneud, a

(b)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn cofrestru amodol interim, pennu’r amodau a osodir ar gofrestriad y person, ac eithrio unrhyw amodau sy’n ymwneud â’i iechyd corfforol neu ei iechyd meddwl.

Gwybodaeth berthnasol: ymgymeriadau yn dilyn cyfaddefiad o amhariad

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(c).

(2Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig—

(a)datgan bod y person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, a

(b)pennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.

Gwybodaeth berthnasol: canfyddiad o ddim amhariad gan banel addasrwydd i ymarfer

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(d).

(2Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig ddatgan—

(a)y canfuwyd nad oes amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, a

(b)bod y panel addasrwydd i ymarfer wedi rhoi cyngor neu rybudd (yn ôl y digwydd) i’r person.

Gwybodaeth berthnasol: adfer

8.  Pan fo cofnod mewn cysylltiad â pherson wedi ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr o dan adran 98(1)(a), rhaid i’r cofnod hefyd ddatgan bod y person wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer.

Gwybodaeth berthnasol: penderfyniadau gan GCC

9.—(1Pan fo GCC wedi dyroddi rhybudd i berson cofrestredig o dan adran 126(3)(c), rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person ddatgan—

(a)nad yw’r cwestiwn ynghylch amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, a

(b)bod rhybudd wedi ei ddyroddi gan GCC.

(2Pan fo GCC wedi cytuno ar ymgymeriadau â pherson cofrestredig o dan adran 126(3)(d), rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person—

(a)datgan nad yw’r cwestiwn ynghylch amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, a

(b)pennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

15th Tachwedd 2016

Rheoliad 3(1)(a)

YR ATODLENCynnwys y gofrestr – Cymwysterau, gwybodaeth neu brofiad perthnasol

1.  Cymeradwyaeth gan unrhyw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae ei ardal yng Nghymru i weithredu fel gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd yn unol ag adran 114(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(3).

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys ar y gofrestr o dan adran 91(1)(c) a (d) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

O dan adran 80(1) o’r Ddeddf, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol penodol a gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol. Mae adran 91(1)(a) a (b) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r gofrestr honno ddangos gwybodaeth benodedig sy’n ymwneud â phob person ar y gofrestr, ac mae paragraffau (c) a (d) yn darparu bod rhaid i’r gofrestr hefyd ddangos unrhyw gymwysterau eraill, gwybodaeth arall neu brofiad arall sy’n berthnasol i gofrestriad y person, ac unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer, a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Ailenwyd Cyngor Gofal Cymru yn Ofal Cymdeithasol Cymru gan adran 67(3) o’r Ddeddf.