- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cynnwys y Gofrestr) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru(1).
(2) Mae cyfeiriadau at adrannau yn y Rheoliadau hyn yn gyfeiriadau at adrannau o’r Ddeddf.
3.—(1) Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson ddangos—
(a)unrhyw gymwysterau, gwybodaeth neu brofiad a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn sydd gan y person (os oes rhai), a
(b)pan fo penderfyniad perthnasol wedi ei wneud mewn cysylltiad ag addasrwydd y person i ymarfer, yr wybodaeth a bennir yn rheoliadau 4 i 9.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad perthnasol” yw—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (3), dyfarniad gan banel addasrwydd i ymarfer bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer o dan yr adrannau a ganlyn—
(i)adran 138 (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad);
(ii)adran 152 (adolygu ymgymeriadau: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);
(iii)adran 153 (adolygu gorchmynion cofrestru amodol: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);
(iv)adran 154 (adolygu gorchmynion atal dros dro: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer);
(v)adran 155 (adolygu gorchmynion atal dros dro amhenodol);
(b)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim i wneud gorchymyn interim o dan adran 144 (gorchmynion interim) neu i gadarnhau neu amrywio gorchymyn interim o dan adran 147 (adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posibl),
(c)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i gytuno ar ymgymeriadau o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7) yn dilyn cyfaddefiad gan berson cofrestredig bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer,
(d)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i roi cyngor neu rybudd i berson cofrestredig o dan adran 137 (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o ddim amhariad), 152(3), 153(3), 154(3) neu 155(6) yn dilyn canfyddiad nad oes amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer,
(e)penderfyniad gan GCC i ddyroddi rhybudd i berson cofrestredig o dan adran 126(3)(c),
(f)penderfyniad gan GCC i gytuno ar ymgymeriadau â pherson cofrestredig o dan adran 126(3)(d), ac
(g)penderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i adfer person i’r rhan berthnasol o’r gofrestr o dan adran 98(1)(a).
(3) Nid yw dyfarniad gan banel addasrwydd i ymarfer bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer yn benderfyniad perthnasol os yw’r gwarediad a wneir yn—
(a)gorchymyn dileu o dan adran 138(9) (yn ddarostyngedig i is-adran (10)), 152(8)(e), 153(9)(d) neu 154(8)(d) (yn ddarostyngedig i is-adran (9)), neu
(b)gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb o dan adran 135(2), 152(2), 153(2), 154(2) neu 155(5).
4.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(a).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig (y “cofnod perthnasol”)—
(a)datgan y canfuwyd bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, a
(b)pennu’r ffordd y gwaredodd y panel addasrwydd i ymarfer y mater o dan adran 138 neu unrhyw un neu ragor o adrannau 152 i 155.
(3) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi cytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig, rhaid i’r cofnod perthnasol bennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.
(4) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, rhaid i’r cofnod perthnasol bennu’r amodau a osodir ar gofrestriad y person cofrestredig, ac eithrio unrhyw amodau sy’n ymwneud â’i iechyd corfforol neu ei iechyd meddwl.
(5) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol sydd wedi peidio â chael effaith, rhaid i’r cofnod perthnasol barhau i nodi bod y person yn ddarostyngedig o’r blaen i orchymyn o’r fath a’r dyddiadau pan oedd y gorchymyn yn cael effaith.
(6) Pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn atal dros dro sydd wedi peidio â chael effaith, rhaid i’r cofnod perthnasol barhau i nodi bod y person wedi bod yn ddarostyngedig i orchymyn o’r fath a’r dyddiadau pan oedd y gorchymyn yn cael effaith.
5.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(b).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig—
(a)datgan y math o orchymyn interim sydd wedi ei wneud neu wedi ei gadarnhau, neu (yn achos amrywio gorchymyn interim o dan adran 147) yr amrywiad sydd wedi ei wneud, a
(b)pan fo’r gorchymyn yn orchymyn cofrestru amodol interim, pennu’r amodau a osodir ar gofrestriad y person, ac eithrio unrhyw amodau sy’n ymwneud â’i iechyd corfforol neu ei iechyd meddwl.
6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(c).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig—
(a)datgan bod y person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, a
(b)pennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud penderfyniad perthnasol a bennir yn rheoliad 3(2)(d).
(2) Rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person cofrestredig ddatgan—
(a)y canfuwyd nad oes amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, a
(b)bod y panel addasrwydd i ymarfer wedi rhoi cyngor neu rybudd (yn ôl y digwydd) i’r person.
8. Pan fo cofnod mewn cysylltiad â pherson wedi ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr o dan adran 98(1)(a), rhaid i’r cofnod hefyd ddatgan bod y person wedi ei dynnu oddi ar y gofrestr yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer.
9.—(1) Pan fo GCC wedi dyroddi rhybudd i berson cofrestredig o dan adran 126(3)(c), rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person ddatgan—
(a)nad yw’r cwestiwn ynghylch amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, a
(b)bod rhybudd wedi ei ddyroddi gan GCC.
(2) Pan fo GCC wedi cytuno ar ymgymeriadau â pherson cofrestredig o dan adran 126(3)(d), rhaid i’r cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person—
(a)datgan nad yw’r cwestiwn ynghylch amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, a
(b)pennu’r ymgymeriadau y cytunwyd arnynt, ac eithrio unrhyw ymgymeriadau sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
15th Tachwedd 2016
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: