xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2016, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 2 Rhagfyr 2016.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;

ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(1);

ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;

ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw’r ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.

(1)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/142 (OJ Rhif L 28, 4.2.2016, t. 8) ac fel y’i cywirwyd gan Gorigendwm (OJ Rhif L 130, 19.5.2016, t. 8).