ATODLEN 1Tystysgrifau cnwd sy’n tyfu

RHAN 2Tatws hadyd cyn-sylfaenol

4.—(1Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw radd oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni bod y tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu y tyfwyd hwy arno—

(a)yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd a gynhaliwyd gan Weinidogion Cymru cyn plannu’r cnwd, nad yw wedi ei halogi â’r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws);

(b)yn dir nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir sydd wedi ei heintio â phoblogaeth Ewropeaidd o’r Llyngyr Tatws; ac

(c)yn dir nad yw wedi ei ddefnyddio ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd yn union cyn plannu’r cnwd.

(2Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.

5.  Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol gradd PBTC yr Undeb oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—

(a)planhigion o amrywogaeth wahanol; neu

(b)planhigion sydd wedi eu heffeithio gan firws cymedrol neu ddifrifol.

6.  Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol gradd PB yr Undeb oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—

(a)mwy na 0.01% yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n amrywio o’u hamrywogaeth a’u math neu sy’n amrywogaeth wahanol; neu

(b)mwy na 0.5% yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n arddangos symptomau o heintiau firws pan fo’r symptomau hynny i’w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol.