ATODLEN 1Tystysgrifau cnwd sy’n tyfu
RHAN 2Tatws hadyd cyn-sylfaenol
4
1
Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw radd oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni bod y tir y mae’r tatws hadyd yn tyfu arno neu y tyfwyd hwy arno—
a
yn dir y canfyddwyd, o ganlyniad i brawf pridd a gynhaliwyd gan Weinidogion Cymru cyn plannu’r cnwd, nad yw wedi ei halogi â’r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws);
b
yn dir nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir sydd wedi ei heintio â phoblogaeth Ewropeaidd o’r Llyngyr Tatws; ac
c
yn dir nad yw wedi ei ddefnyddio ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd yn union cyn plannu’r cnwd.
2
Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd.
5
Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol gradd PBTC yr Undeb oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—
a
planhigion o amrywogaeth wahanol; neu
b
planhigion sydd wedi eu heffeithio gan firws cymedrol neu ddifrifol.
6
Ni chaniateir dyroddi tystysgrif cnwd sy’n tyfu sy’n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol gradd PB yr Undeb oni bai bod y swyddog awdurdodedig wedi ei fodloni nad yw’r cnwd olynol nesaf a gynhyrchir allan o’r tatws hadyd yn debygol o gynnwys—
a
mwy na 0.01% yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n amrywio o’u hamrywogaeth a’u math neu sy’n amrywogaeth wahanol; neu
b
mwy na 0.5% yn ôl rhif y planhigion sy’n tyfu sy’n arddangos symptomau o heintiau firws pan fo’r symptomau hynny i’w priodoli i haint yn y cnwd tarddiol.