Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1059 (Cy. 250)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol a Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2016

Gwnaed

1 Tachwedd 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Tachwedd 2016

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2016

RHAN 1

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol a Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol” (“the Optical Charges and Payments Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2);

ystyr “Rheoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol” (“the General Ophthalmic Services Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(3); ac

ystyr “Rheoliadau’r Rhestr Atodol” (“the Supplementary List Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006(4).

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol

Diwygio rheoliad 7A o Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol

2.—(1Mae rheoliad 7A o Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (e) ar ddiwedd yr is-baragraff dileër y gair “or”; ac

(b)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

or

(g)that after 30 July 2002, the ophthalmic medical practitioner or optician has been convicted in the United Kingdom of any criminal offence (other than murder) and has been sentenced to a term of imprisonment (whether suspended or not) of over six months.

(3Hepgorer rheoliad 7A(2)(b).

Diwygio rheoliad 9 o Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol

3.—(1Mae rheoliad 9 o Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 9(1) mewnosoder—

(1A) The Local Health Board may remove the ophthalmic medical practitioner or optician from its ophthalmic list where that person has been convicted in the United Kingdom of a criminal offence (other than murder) since 30 July 2002, and has been sentenced to a term of imprisonment (whether suspended or not) of over six months.

(3Yn rheoliad 9(2), yn lle “six” rhodder “twelve”.

(4Yn lle rheoliad 9(2A), rhodder—

(2A) In calculating the period of twelve months referred to in paragraph (2), the Local Health Board will disregard any period—

(a)during which the contractor provided no general ophthalmic services by reason only that the practitioner was suspended from the ophthalmic list;

(b)during which the contractor was performing whole-time service in the armed forces in a national emergency (as a volunteer or otherwise);

(c)during which the contractor was performing compulsory whole-time service in the armed forces (including service resulting from reserve liability), or any equivalent service, if liable for compulsory whole-time service in the armed forces; and

(d)which the Local Health Board with good cause so determines.

(5Hepgorer rheoliad 9(5).

Diwygio rheoliad 9C o Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol

4.  Hepgorer rheoliad 9C(1)(b).

Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol

5.—(1Mae Atodlen 1 i Reoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 9(2) o Atodlen 1, ar ôl y geiriau “Any such claim”, mewnosoder “may be submitted electronically or on paper and”.

(3Yn lle paragraff (9)(3) rhodder—

(3) A signatory or counter-signatory is to sign any electronic claim or paper claim in digital ink or in ink with his or her initials or forename and with his or her surname in his or her own handwriting and not by means of a stamp or reproduced image.

(4Hepgorer paragraff 10(3).

RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol

6.—(1Mae rheoliad 1 o Reoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2), yn lle’r diffiniad o “small glasses” rhodder—

“small glasses” means glasses—

(a)

having a frame which is either custom made or a stock frame requiring extensive adaptation to ensure an adequate fit; and

(b)

having a boxed centre distance of no more than 55 millimetres, and for this purpose “boxed centre” is to be construed in accordance with British Standard BS EN ISO 8624:2011 (Ophthalmic Optics. Spectacle Frames. Measuring System and Terminology) published on 28 February 2011;.

Diwygio Atodlen 2 i Reoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol

7.  Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth) yn lle paragraff 1(1)(g) rhodder—

(g)where the voucher is issued by an ophthalmic medical practitioner or optician, an NHS trust or Local Health Board in respect of glasses, the frame of which is certified by the ophthalmic medical practitioner or optician, the NHS Trust or Local Health Board issuing that voucher as being required to be specifically manufactured on account of the person’s facial characteristics—

(i)by £64.20 in the case of the supply or replacement of the glasses or repair of the whole frame;

(ii)by £57.00 in the case of repair of the front of the frame; and

(iii)by £30.80 in the case of repair of a side frame.

RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau’r Rhestr Atodol

Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau’r Rhestr Atodol

8.—(1Mae rheoliad 6 o Reoliadau’r Rhestr Atodol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff d ar ddiwedd yr is-baragraff dileër y gair “neu”; ac

(b)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—

neu

(e)pan fo ymarferydd, ar ôl 1 Chwefror 2006, wedi cael ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am unrhyw dramgwydd troseddol (ar wahân i lofruddiaeth) ac wedi cael ei ddedfrydu i dros chwe mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio).

(3Hepgorer paragraff (2)(dd).

Diwygio rheoliad 10 o Reoliadau’r Rhestr Atodol

9.—(1Mae rheoliad 10 o Reoliadau’r Rhestr Atodol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer paragraff (1)(b).

(3Ar ôl paragraff (5)(a) mewnosoder—

(aa)bod yr ymarferydd wedi cael ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig am dramgwydd troseddol (ar wahân i lofruddiaeth), a gyflawnwyd ar neu ar ôl 1 Chwefror 2006 a’i fod wedi ei ddedfrydu i dros chwe mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio);.

(4Ym mharagraff (7), yn lle “chwe” rhodder “deuddeng”.

(5Yn lle paragraff (8) rhodder—

(8) Wrth gyfrifo’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfeirir ato ym mharagraff 10(7), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddiystyru—

(a)unrhyw gyfnod pan oedd yr ymarferydd wedi ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw gyfnod pan oedd yr ymarferydd yn cyflawni gwasanaeth amser llawn yn y lluoedd arfog mewn argyfwng cenedlaethol (fel gwirfoddolwr neu fel arall), gwasanaeth amser llawn gorfodol yn y lluoedd arfog (gan gynnwys gwasanaeth o ganlyniad i unrhyw atebolrwydd i wasanaethu fel aelod wrth gefn), neu wasanaeth cyfatebol os oedd yn atebol am wasanaeth amser llawn gorfodol yn y lluoedd arfog; ac

(c)unrhyw gyfnod y mae gan y Bwrdd Iechyd Lleol reswm da dros ei benderfynu.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio a Diwygiad Canlyniadol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau’r Rhestr Atodol”).

Mae rheoliadau 2, 3(2) a 4 yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol drwy roi disgresiwn i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod derbyn ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd (“ymarferydd”) ar ei restr offthalmig, neu ei dynnu oddi arni, os yw’r ymarferydd wedi ei euogfarnu am unrhyw drosedd (ar wahân i lofruddiaeth) ac wedi ei ddedfrydu i dros chwe mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio).

Mae rheoliadau 3(3), (4) a (5) yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol drwy roi disgresiwn i Fwrdd Iechyd Lleol dynnu ymarferydd oddi ar ei restr offthalmig os nad yw’r ymarferydd wedi perfformio gwasanaethau offthalmig cyffredinol yn ei ardal leol yn y deuddeng mis blaenorol.

Mae rheoliad 5 yn diwygio’r Rheoliadau Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol drwy ganiatáu i ffurflenni Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol gael eu llofnodi ag inc digidol a’u cyflwyno’n electronig, ac mae’n dileu’r gofyniad i ymarferwyr hysbysu meddyg claf am ganlyniadau prawf golwg claf sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes neu glawcoma.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn diwygio Rheoliadau’r Ffioedd a Thaliadau Optegol. Mae rheoliad 6 yn darparu diffiniad newydd ar gyfer y term “small glasses”. Mae rheoliad 7 yn amnewid paragraff 1(1)(g) o Atodlen 2 i wneud darpariaeth newydd i ymarferwyr ddyroddi ac ardystio talebau ar gyfer sbectolau pan fo angen i’r ffrâm gael ei gweithgynhyrchu’n arbennig.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Rheoliadau’r Rhestr Atodol er mwyn rhoi disgresiwn newydd i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod cais gan ymarferydd i gael ei gynnwys ar restr atodol o’r rhai sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol (“y rhestr atodol”). Caniateir i ymarferydd sydd wedi ei euogfarnu am drosedd (ar wahân i lofruddiaeth) ac sydd wedi ei ddedfrydu i dros chwe mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio), ar ddisgresiwn y Bwrdd Iechyd Lleol, gael ei gynnwys ar y rhestr atodol.

Ar hyn o bryd pan na fo ymarferydd yn gallu dangos ei fod wedi helpu i ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol yn ystod y chwe mis blaenorol, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol dynnu’r ymarferydd oddi ar ei restr atodol. Mae rheoliad 9 yn estyn y cyfnod hwn o chwe mis i ddeuddeng mis.

Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Rhestr Atodol er mwyn darparu disgresiwn newydd i Fwrdd Iechyd Lleol dynnu ymarferydd oddi ar ei restr atodol. Caniateir i ymarferydd sydd wedi ei euogfarnu am drosedd (ar wahân i lofruddiaeth) ac sydd wedi ei ddedfrydu i dros chwe mis o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio), ar ddisgresiwn y Bwrdd Iechyd Lleol, gael ei dynnu oddi ar y rhestr atodol.