Search Legislation

Gorchymyn Ardaloedd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a Chil-y-coed a Gwynllŵg (Diddymu) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 2(2)

YR ATODLENCYNLLUN 2014 I DDIDDYMU ARDALOEDD A BYRDDAU DRAENIO MEWNOL RHANNAU ISAF AFON GWY A CHIL-Y-COED A GWYNLLŴG A CHREU ARDAL DRAENIO MEWNOL NEWYDD A’I THROSGLWYDDO I GORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU A GYFLWYNWYD GAN GORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU

1.  Daw’r Cynllun hwn i rym ar 1 Ebrill 2015.

2.  Yn y Cynllun hwn—

mae i “aelod” yr un ystyr a roddir i “member” yn adran 124(1) o ddeddf Pensiynau 1995(1);

mae i “aelod actif” yr un ystyr ag “active member” yn Atodlen 1 i Reoliadau LGPS;

ystyr “Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg” yw’r bwrdd draenio mewnol a gyfansoddwyd gan Orchymyn Ardal Draenio Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg 1942(2) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Bwrdd Afon Wysg 1954(3) ac ystyr “Ardal Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg” yw’r ardal draenio mewnol a gyfansoddir gan y Gorchmynion hyn;

ystyr “Bwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy” yw’r bwrdd draenio mewnol a gyfansoddwyd gan Orchymyn Bwrdd Dalgylch Afon Gwy (Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy) 1950(4) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Ardaloedd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy ac Afon Llugwy (Newid Ffiniau) 2014(5) ac ystyr “Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy” yw’r ardal draenio mewnol a gyfansoddwyd gan y Gorchmynion hyn;

ystyr “cyflogai” yw unigolyn sydd wedi ymrwymo i gontract gwaith neu gontract gwasanaeth neu brentisiaeth neu sy’n gweithio o dan delerau contract neu brentisiaeth o’r fath, pa un a yw’r cyfryw gontract wedi’i gytuno’n ddatganedig (yn ysgrifenedig neu ar lafar) neu fod hynny ymhlyg yn natur y berthynas, ond nid yw’n cynnwys unigolyn sy’n darparu gwasanaethau dan gontract ar gyfer gwasanaethau, a rhaid dehongli “cyflogwr” a “cyflogaeth” yn unol â hynny;

ystyr “Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol” yw’r cynllun a sefydlwyd gan y Rheoliadau LGPS;

ystyr “dyddiad cychwyn” yw’r dyddiad y daw’r Cynllun i rym;

ystyr “Rheoliadau LGPS” yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013(6);

ystyr “Rheoliadau Trosiannol LGPS” yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Darpariaethau Trosiannol, Arbed a Diwygio) 2014(7);

ystyr “y Corff” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru fel y’i cyfansoddwyd gan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012(8).

Diddymu Ardaloedd a Byrddau presennol a sefydlu Ardal newydd

3.  O’r dyddiad cychwyn ymlaen—

(a)mae Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a Bwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy wedi eu diddymu;

(b)mae Ardal Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg a Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg wedi eu diddymu;

(c)bydd ardal draenio newydd a elwir “Ardal Draenio Mewnol Gwent” yn cael ei chyfansoddi ar gyfer y tir a oedd gynt o fewn Ardal Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a’r tir a oedd gynt o fewn Ardal Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg;

(d)y Corff fydd y bwrdd draenio ar gyfer Ardal Draenio Mewnol Gwent; ac

(e)bydd yr holl eiddo, hawliau, pwerau, dyletswyddau, rhwymedigaethau ac atebolrwydd fel yr oeddent wedi’u breinio ym Mwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy neu Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg neu i gael eu cyflawni gan y Byrddau hynny yn union cyn y dyddiad cychwyn, yn cael eu trosglwyddo i’r Corff a’u breinio ynddo, neu i gael eu cyflawni ganddo (yn ôl y digwydd).

4.  Caiff y Corff adennill holl ôl-ddyledion ardrethi a godwyd gan Fwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy neu gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg cyn y dyddiad cychwyn mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod sy’n dod i ben cyn y dyddiad cychwyn yn yr un modd â phe baent wedi eu codi gan y Corff.

5.  Yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol y caiff y Cynllun hwn ei wneud ynddi, caiff y Corff adennill ôl-ddyledion ardrethi dim ond hyd at y lefel a bennwyd gan Fwrdd Draenio Mewnol Rhannau Isaf Afon Gwy a Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg yn eu trefn ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

6.  Mae’r Cynllun i’w weithredu fel tystiolaeth bendant o bob peth a drosglwyddwyd o dan y Cynllun hwn heb fod angen unrhyw aseiniadau, trawsgludiadau neu weithredoedd trosglwyddo pellach.

Cyflogeion

7.  O’r dyddiad cychwyn ymlaen, bydd holl gyflogeion Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg yn trosglwyddo i’r Corff.

Pensiynau

8.  Bydd unrhyw ddarpariaethau o’r Rheoliadau LGPS neu’r Rheoliadau Trosiannol LGPS a oedd yn union cyn y dyddiad cychwyn yn rhoi swyddogaethau i Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg yn rhinwedd y ffaith ei fod yn gyflogwr aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael effaith o’r dyddiad cychwyn ymlaen, fel pe bai y Corff yn gyflogwr ar yr aelod ar hyd yr amser pan oedd y person hwnnw yn aelod actif.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources